Gweithredwr Cynhyrchu Print (dyddiad cau: 01/08/25)
£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am Weithredwr Cynhyrchu Argraffu Print gyda phrofiad mewn Argraffu Swmp Digidol, trin data a chynhyrchu Fformat Mawr.
Teitl y swydd: Gweithredwr Cynhyrchu Argraffu
Rhif y swydd: CS.0317-V3
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithredwr Cynhyrchu Argraffu (CS.0317-V3) Disgrifiad Swydd (PDF, 261 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd CS.0317-V3
Dyddiad cau: 11.45pm, 1 Awst 2025
Rhagor o wybodaeth
DesignPrint yw'r uned argraffu fewnol ar gyfer Cyngor Abertawe, sy'n cynhyrchu ystod eang o swyddi sy'n gysylltiedig â phrint i gwsmeriaid o fewn y cyngor, yn ogystal ag ysgolion, elusennau a sefydliadau allanol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad mewn cynhyrchu argraffu digidol a thrin data gan ddefnyddio offer argraffu swmp, gweithrediadau gorffen gan gynnwys coladu, plygu a mewnosod amlenni, yn ogystal â phrofiad mewn cynhyrchu fformat mawr fel baneri pontydd, stondinau arddangos ac arwyddion.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer offer penodol lle bo angen.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol