Swyddog Cyfathrebu (dyddiad cau: 01/08/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn (pro-rata) Ydych chi'n angerddol am gyfathrebu ac eisiau gwneud eich marc yn un o'r awdurdodau lleol gorau yng Nghymru? Rydym yn cynnig cyfle prin i unigolyn â chymhelliant uchel ymuno â'n tîm cyfathrebu gwych, cyfeillgar ar sail ran-amser (18.5 awr yr wythnos).
Teitl y swydd: Swyddog Cyfathrebu
Rhif y swydd: CS.65972-V2
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn (pro-rata)
Disgrifiad swydd: Swyddog Cyfathrebu (CS.65972-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 220 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd CS.65972-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 1 Awst 2025
Mwy o wybodaeth
Ymunwch ag un o awdurdodau lleol mwyaf blaenllaw Cymru fel Swyddog Cyfathrebu a helpu i lunio sut rydym yn adrodd ein stori i'r cyhoedd a'n staff. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol creadigol, digidol gyda chefndir cryf mewn cysylltiadau cyhoeddus neu newyddiaduraeth i arwain ymgyrchoedd effeithiol, cynhyrchu fideo a chynnwys cyfryngau cymdeithasol sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn ein henw da.
Byddwch yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr, y cyfryngau a'r cyhoedd mewn rôl gyflym sy'n gwerthfawrogi arloesedd ac ystwythder.
Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth ac yn gallu ffynnu mewn tîm deinamig, blaengar a chyfeillgar, rydyn ni eisiau clywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol, anfonwch e-bost i patrick.fletcher@swansea.gov.uk
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol