
Ymaelodi â llyfrgell a gwybodaeth am aelodaeth
Ymaelodwch i fod yn aelod am ddim ar-lein neu yn unrhyw un o'n 17 o lyfrgelloedd.
Pam bod yn aelod?
- Gallwch fenthyg hyd at 20 o lyfrau mewn cyfnod o 3 wythnos
- Wi-fi am ddim ym mhob llyfrgell
- Mynediad i eLyfrau, eLyfraullafar ac eGylchgronau am ddim
- Mynediad i amrywiaeth o adnoddau ar-lein am ddim
- Llogi DVDs
Ymaelodi ar-lein i fod yn aelod o'r llyfrgellYn agor mewn ffenest newydd
Ar ôl cwblhau'r ffurflen ar-lein, byddwch yn derbyn neges groeso sy'n cynnwys eich rhif llyfrgell dros dro ac a fydd yn cadarnhau eich PIN. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i gael mynediad at eich cyfrif.
Wedyn, bydd angen i chi fynd i'r llyfrgell o'ch dewis gyda'ch rhif llyfrgell dros dro ac un prawf hunaniaeth sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad (er enghraifft, trwydded yrru, datganiad banc neu fil cyfleustod) i dderbyn eich rhif llyfrgell parhaol a'ch cerdyn, a fydd yn golygu eich bod yn aelod llawn. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Gallwch gael mynediad at eich cyfrif ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio'ch rhif llyfrgell a'ch PIN.
Os ydych eisoes yn aelod llawn o Lyfrgelloedd Abertawe, nid oes angen i chi gofrestru eto i gael mynediad at ein hadnoddau ar-lein.
Bydd eich aelodaeth o Lyfrgelloedd Abertawe'n rhoi mynediad i chi at gynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://llyfrgelloedd.cymru/staff-toolkit/your-region/