Chwilio'r wefan
English

Cadeiriau cynfas ar gyfer y rhai sydd am wylio'r Briodas Frenhinol

Gallai dydd Sadwrn heulog fod hyd yn oed yn brafiach i ymwelwyr â Sgwâr y Castell yn Abertawe lle bydd cadeiriau cynfas ar gael am ddim i bobl sydd am wylio'r briodas frenhinol ar y Sgrîn Fawr.

Castle Square

Disgwylir i gynulleidfa fyd-eang o gannoedd o filiynau wylio priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle ar 19 Mai.

A bydd Cyngor Abertawe'n helpu ymwelwyr bore Sadwrn i gael hoe o'r siopa drwy ddangos darllediad y BBC o 9am tan 2pm y gellir ei wylio o gysur y cadeiriau cynfas am ddim.

Ar hyn o bryd, mae dwy stryd yn Abertawe - un yn Langland a'r llall yng Nghilâ - wedi trefnu i gau'r strydoedd dros dro fel y gall preswylwyr fwynhau diwrnod cymunedol i ddathlu'r briodas. 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM