
Gwneud cais am wasanaeth ailgylchu a sbwriel
Gallwch wneud cais am sachau/fagiau newydd, casgliad gwastraff swmpus a chymorth gyda'ch casgliadau, yn ogystal â gwasanaethau eraill.
Gwneud cais am fwy o finiau a sachau ailgylchu
Os nad ydych yn gallu casglu sachau a biniau o un o'n cyflenwyr lleol, gallwch ofyn iddynt gael eu cludo i'ch cartref.
Trefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein
Gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
Eithriadau Cadwch at 3
Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o wastraff cartref. Trwy ddefnyddio'n gwasanaethau ailgylchu ymyl y palmant, ni fydd gennych lawer o wastraff sachau du. Ni ellir ailgylchu'ch holl wastraff cartref, a dyma pam y caiff cartrefi penodol sy'n cynhyrchu symiau mawr wneud cais am eithriad i'r cyfyngiad.
Casglu â Chymorth
Os rydych yn cael anawsterau wrth gludo eich ailgylchu a'ch sbwriel i ymyl y ffordd i'w casglu, gallech fod yn gymwys am gasglu â chymorth. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n casglu'r ailgylchu a'r gwastraff o garreg eich drws.