Chwilio'r wefan
English

Daw breuddwydion yn wir gyda theatr awyr agored arbennig yng Nghastell Ystumllwynarth

Bydd comedi glasurol gan Shakespeare yn dod yn fyw yng Nghastell hanesyddol Ystumllwynarth yr wythnos nesaf.

Cynhelir perfformiad theatr awyr agored o A Midsummer Night's Dream yn yr atyniad o'r 12fed ganrif nos Iau, 19 Gorffennaf.

Caiff y stori o gariad, cynllwyn a hud a lledrith gan y bardd ei pherfformio gan Quantum Theatre.

Bydd trwydded lawn gan y digwyddiad a bydd cyrfau arbennig ar gael. Bydd y cwmni o Fforest-fach, Panini's, sy'n noddi'r noson yn cynnig bwyd poeth ac oer.

Cynhaliwyd y theatr awyr agored yn llwyddiannus yng Nghastell Ystumllwynarth am nifer o flynyddoedd. Ar 9 Awst eleni, ceir perfformiad o The Reluctant Dragon gan Kenneth Grahame, sef stori am ddewrder a chyfeillgarwch.

Mae tocynnau gostyngedig a thocynnau i'r teulu ar gael ar gyfer A Midsummer Night's Dreamos ydych yn eu prynu ymlaen llaw. Mae'r gatiau'n agor am 6.30pm i ddechrau am 7.30pm.

Manylion llawn y tocynnau: www.joiobaeabertawe.com/theatrawyragored-2018/

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM