Toglo gwelededd dewislen symudol

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor

Byddwch yn wyliadwrus o dwyll dros e-bost sy'n dweud wrthych y gallwch wneud cais am ostyngiad Treth y Cyngor. Bydd yn gofyn i chi am eich manylion banc a allai arwain atoch yn cael eich twyllo i roi arian.

Mae'r e-bost yn ymddangos fel ei fod wedi'i anfon gan GOV.UK, ond twyll yw hyn.


Mae gennych neges newydd oddi wrth GOV.UK am eich Treth y Cyngor

Helô ..............................,

Cyfrifo'ch Treth y Cyngor

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o 3 pheth:

  • y band prisio ar gyfer eich cartref yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban
  • y swm a godir gan y cyngor lleol am y band hwnnw
  • p'un a ydych chi'n gallu cael gostyngiad neu'ch eithrio rhag dalu'r bil cyfan

Byddwch yn derbyn gostyngiad Treth y Cyngor (Budd-dal Treth y Cyngor gynt) os ydych ar incwm isel neu'n derbyn budd-daliadau.

  • Cyfanswm swm y budd-dal: GBP 385.50
  • Bydd cyfanswm yr ad-daliad yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'ch cerdyn debyd/credyd.

Cyflwynwch gais nawr i hawlio'r gostyngiadau a gafwyd o'ch taliadau Treth y Cyngor dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

 

Hawliwch eich Gostyngiad Treth y Cyngor Nawr

Mae'r wybodaeth yn y neges e-bost electronig hon yn breifat ac yn gyfrinachol ac at sylw'r derbynnydd yn unig.

Diolch

Tîm Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth


Cofiwch, peidiwch â rhoi eich manylion banc ar ffurflen ar wefan, dros e-bost neu dros y ffôn oni bai eich bod yn gwybod i ble yn union mae'r arian yn mynd. Mae llawer o dwyllwyr ar hyn o bryd ac mae'n bwysig bod yn wyliadwrus.

Os ydych am wybod rhagor am gael Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalen Budd-dal Gostyngiad Treth y Cyngor. Os ydych yn gymwys am ostyngiad, ni fyddech wedi derbyn yr wybodaeth dros e-bost gan y cyngor na gwefan GOV.UK.

 

Daw'r rhybudd o dwyll hwn o fis Mehefin 2020.

Close Dewis iaith