Chwilio'r wefan
English

Noson mas fawr i deuluoedd a selogion ffilm yn Abertawe

Mae selogion ffilm Abertawe'n cael eu gwahodd i un o ddigwyddiadau ffilm y flwyddyn yn y ddinas

Caiff sioe gerdd The Greatest Showman gyda Hugh Jackman ei dangos ar sgrîn fawr Sgwâr y Castell am ddwy noson y mis nesaf (sylwer: mis Hydref).

Bydd perfformiadau syrcas ar y stryd yn rhan o ddigwyddiad mynediad am ddim Cyngor Abertawe - a bwyd stryd i'w brynu.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd hyn yn brofiad sinema awyr agored i ymgolli'n llwyr ynddo - ac yn llawer o hwyl i'r teulu cyfan."

Caiff The Greatest Showman ei dangos am ddim ar sgrîn fawr Sgwâr y Castell ar 5 Hydref, a chynhelir gweithgareddau o 4pm i 8pm.
Mae'n adrodd hanes PT Barnum (Jackman) a'i fywyd fel entrepreneur syrcas ac amgueddfa. Ymhlith y sêr mae Michelle Williams a Zac Efron.

Bydd y sioe yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe, dathliad o gerddoriaeth, barddoniaeth, ffilm, comedi, digwyddiadau i'r teulu a mwy.

Meddai Joe Bayliss, o'r Ŵyl Ymylol, "Rydym yn hapus iawn i ddatblygu'r Ŵyl Ymylol gyda chefnogaeth BID a churadwyr digwyddiadau gwadd megis Cyngor Abertawe."

Rhagor o wybodaeth

Llun The Greatest Showman

Wedi'i bweru gan GOSS iCM