Toglo gwelededd dewislen symudol

Gyrwyr - cerbydau hacni a hurio preifat

Rhaid i bob gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat gael ei drwyddedu gennym ni. Rhaid iddynt wisgo bathodyn adnabod ffotograffig bob amser wrth iddynt weithio.

Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat

Dylai teithwyr wirio bod y gyrrwr yn gwisgo bathodyn hunaniaeth ac nid yw'r dyddiad dod i ben wedi darfod. Dylai ail fathodyn gael ei arddangos yn glir yn y cerbyd.

Gall bathodynnau gyrwyr deuol fod yn wyn, yn felyn neu'n wyrdd ac yn arddangos:

  • ffotograff y gyrrwr
  • enw
  • rhif y gyrrwr
  • dyddiad dod i ben.

Os ydych yn teithio mewn car hurio preifat gwyn neu dacsi du, bydd angen i chi gadw llygad am y bathodynnau gwyn neu felyn a wisgir gan yrwyr.

Os ydych yn defnyddio cerbydau trwyddedig i fynd i'r ysgol neu goleg, gallwch ddisgwyl gweld y gyrrwr yn gwisgo bathodynnau gwyn neu wyrdd.

Er eich diogelwch, peidiwch â mynd mewn unrhyw gerbyd os nad oes bathodyn gyrrwr dilys yn cael ei arddangos.

Dylai gyrwyr gario nifer rhesymol o fagiau teithwyr a helpu i lwytho neu ddadlwytho'r bagiau os gofynnir amdano. Dylai gyrwyr alw wrth y drws wrth gasglu teithwyr. Ni ddylent ganu'r corn i nodi eu bod yno. 

Rhaid i'r holl weithwyr gael gwiriad gan yr heddlu a chael prawf gwybodaeth cyn cael trwydded.

Close Dewis iaith