Toglo gwelededd dewislen symudol

Masnachu yn y parth allanol

Mae'r holl barth allanol ar dir cyhoeddus a phreifat y tu allan i ganol y ddinas.

I gael y manylion llawn am fasnachu yn y parth allanol, ffoniwch Safonau Masnach ar 01792 635600 neu e-bostiwch safonau.masnach@abertawe.gov.uk, gan ddarparu cyfeiriad e-bost, fel y gall y manylion gael eu hanfon atoch.

Sut i gyflwyno cais am y parth allanol

Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd ar gyfer y parth allanol Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd ar gyfer y parth allanol

I fasnachu yn y parth allanol, mae angen i chi benderfynu a ydych yn dymuno gweithio fel masnachwr symudol neu fasnachwr â llain.

I weithio fel masnachwr symudol bydd hi'n ofynnol i chi ddarparu manylion am ble y byddwch yn masnachu.Dylai hwn fod naill ai'n lleoliad e.e. Townhill, Brynhyfryd neu os ydych yn dymuno masnachu mewn nifer o leoliadau yn y parth allanol, dylech ddarparu cynllun o'r ardal fasnachu.

I fasnachu o lain, ar dir cyhoeddus neu breifat, bydd hi'n ofynnol i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir yn gyntaf. Nid y masnachwr sydd eisoes yn masnachu yno yw hyn o reidrwydd. Bydd angen i chi wirio gyda'r busnes os yw'n prydlesu'r tir - os felly, pwy yw'r prydleswr? Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig ganddo a'i gyflwyno gyda'ch cais.

Gallwch gyflwyno cais ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen gais masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas.Bydd rhaid i chi dalu ffi'r mis cyntaf gyda'r cais a lanlwytho unrhyw ddogfennau ategol.

Caniatâd cynllunio

Os ydych yn bwriadu masnachu o lain yn y parth allanol, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch cyn y gallwch wneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd. Cysylltwch â'r Tîm Rheoli Cynllunio i ddarganfod rhagor am gyflwyno cais cynllunio.

Proses ymgynghori

Cyn y gallwn roi caniatâd ar gyfer masnachu ar y stryd, byddwn yn ymgynghori ag asiantaethau lleol. Mae'r broses hon yn cymryd hyd at 28 niwrnod.Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, yna rhoddir caniatâd i'r ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys dyddiad dechrau a gorffen y caniatâd masnachu, fel arfer rhwng 3 mis i uchafswm o flwyddyn, a manylion ar sut i derfynu eich caniatâd masnachu ar y stryd.

Os oes unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cais ei gyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu'r cyngor, a fydd yn ei adolygu. Mae eu penderfyniad yn derfynol ac nid oes apêl.

Ffïoedd

Ffioedd ar gyfer trwyddedau masnachu ar strydoedd y parth allanol Ffioedd ar gyfer trwyddedau masnachu ar strydoedd y parth allanol

Rhaid i chi gyflwyno eich ffi ar gyfer y mis cyntaf gyda'r cais neu dalu'n llawn am gyfnod y cais.

Os ydych yn dewis talu ffi ar gyfer y mis cyntaf yn unig, rhaid llenwi a chyflwyno ffurflen debyd uniongyrchol gyda'ch ffurflen gais. Yna caiff y ffïoedd sy'n weddill eu hanfonebu i'w talu ar y cyntaf o'r mis, neu o gwmpas y cyntaf o'r mis, i'w talu drwy ddebyd uniongyrchol.

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â Safonau Masnach.

Arweiniad i gyflwyno cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yn y parth allanol

Mae'r arweiniad canlynol wedi'i baratoi i gynorthwyo ceisiadau i gwblhau'r cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd yn y parth allanol.
Close Dewis iaith