Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd ar gyfer y parth allanol

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am ganiatâd i ddefnyddio llain masnachu ar y stryd mewn ardal y tu allan i ganol y ddinas. Bydd rhaid i chi dalu ffïoedd y mis cyntaf wrth gyflwyno'r cais hwn.

Cyn i chi gwblhau'r ffurflen hon, sicrhewch eich bod wedi darllen y nodiadau arweiniol.

Fel rhan o'ch cais, byddwch yn gallu lanlwytho dogfennau ategol. Mae'n rhaid i chi gadw'r dogfennau hyn ar eich cyfrifiadur cyn i chi eu lanlwytho.

  • Os ydych chi'n cyflwyno cais am safle yn y parth allanol, lanlwythwch fap i nodi'r lleoliad arfaethedig (ar gyfer ceisiadau newydd yn unig)
  • Os yw'r llain ar dir preifat, bydd angen caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog tir arnoch. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig gyda cheisiadau newydd a'r rhai rydych yn eu hadnewyddu.
  • Dylech hefyd gael caniatâd cynllunio ar gyfer eich safle arfaethedig. Dylech gynnwys cyfeirnod y cais ar y ffurflen hon.
  • Ffotograff o'r stondin, cerbyd etc a ddefnyddir fel rhan o'ch busnes (ar gyfer ceisiadau newydd yn unig)
  • Dau lun maint pasbort o'r holl ymgeiswyr a'r cynorthwywy.
  • Copi o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, lleiafswm o £5 miliwn o sicrwydd yswiriant
  • Ffurflen Debyd Uniongyrchol wedi'i llenwi. Dylech  lawrlwytho'r asesiad risg diogelwch tân (Word doc) [41KB], cwblhewch y manylion a chadwch y ffurflen wedi'i chwblhau ar eich cyfrifiadur. Byddwch yn gallu lanlwytho'r ffurflen wedi'i llenwi fel rhan o'r cais hwn.
  • Gwiriad GDG sylfaenol o wefan Gov.uk (ceisiadau newydd yn unig). Bydd angen i chi wneud cais i ofyn am wiriad GDG sylfaenol (Yn agor ffenestr newydd) cyn cyflwyno'ch cais am drwydded masnachu ar y stryd.
Close Dewis iaith