Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Faint mae'n rhaid i mi ei dalu ar gyfer Treth y Cyngor?

Mae swm treth y cyngor mae'n rhaid i chi ei dalu'n seiliedig ar werth band prisio Treth y Cyngor y mae'ch eiddo'n cael ei roi ynddo a nifer yr oedolion sy'n byw yno.

Codir treth y cyngor ar sail ddyddiol ac anfonir bil blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gan ddechrau ar 1 Ebrill.

Bydd yn cymryd yn ganiataol y bydd eich amgylchiadau ar 1 Ebrill yn aros yr un peth am y flwyddyn gyfan. Os bydd eich amgylchiadau'n newid yn ystod y flwyddyn, caiff y tâl ei addasu i adlewyrchu hyn.

Defnyddiwch ein bil rhithwir i gael gwybod am y taliadau ar gyfer eiddo gwahanol yn Abertawe.

Mae tâl Treth y Cyngor yn amrywio ychydig o ward i ward gan ddibynnu a godir treth gan gyngor cymuned yn eich ward.

Cyfraddau Treth y Cyngor yn Abertawe 2024-25
WardBand A
£
Band B
£
Band C
£
Band D
£
Band E
£
Band F
£
Band G
£
Band H
£
Band I
£
Llandeilo Ferwallt1,364.171,591.531,818.892,046.262,500.992,955.713,410.434,092.524,774.61
Clydach1,372.591,601.371,830.132,058.902,516.432,973.973,431.494,117.804,804.11
Gorseinon1,359.741,586.371,812.992,039.622,492.872,946.123,399.364,079.244,759.12
Tre-gŵyr1,341.221,564.761,788.302,011.842,458.922,905.993,353.064,023.684,694.30
Pengelli a Waungron1,357.711,584.001,810.282,036.572,489.142,941.713,394.284,073.144,752.00
Llanilltud Gŵyr1,344.301,568.361,792.402,016.462,464.562,912.673,360.764,032.924,705.08
Cilâ1,336.641,559.421,782.192,004.972,450.522,896.073,341.614,009.944,678.27
Llangynydd, Llanmadog a Cheriton1,339.891,563.211,786.522,009.842,456.472,903.103,349.734,019.684,689.63
Llangyfelach1,350.381,575.451,800.512,025.582,475.712,925.843,375.964,051.164,726.36
Llanrhidian Uchaf1,404.971,639.141,873.302,107.472,575.803,044.133,512.444,214.944,917.44
Llanrhidian Isaf1,343.351,567.241,791.132,015.032,462.822,910.603,358.384,030.064,701.74
Llwchwr1,358.251,584.641,811.012,037.392,490.142,942.903,395.644,074.784,753.92
Mawr1,425.201,662.741,900.272,137.812,612.883,087.953,563.014,275.624,988.23
Y Mwmbwls1,383.991,614.661,845.322,075.992,537.322,998.653,459.984,151.984,843.98
Penllergaer1,335.811,558.451,781.082,003.722,448.992,894.263,339.534,007.444,675.35
Pennard1,371.191,599.731,828.262,056.802,513.872,970.943,427.994,113.604,799.21
Pen-rhys1,347.301,571.861,796.402,020.962,470.062,919.173,368.264,041.924,715.58
Pontarddulais1,373.611,602.551,831.482,060.422,518.292,976.163,434.034,120.844,807.65
Pontlliw a Thircoed1,355.491,581.411,807.322,033.242,485.072,936.903,388.734,066.484,744.23
Porth Einon1,341.091,564.611,788.122,011.642,458.672,905.703,352.734,023.284,693.83
Reynoldston1,356.451,582.531,808.602,034.682,486.832,938.983,391.134,069.364,747.59
Rhosili1,351.851,577.161,802.472,027.782,478.402,929.023,379.634,055.564,731.49
Y Crwys1,358.021,584.361,810.702,037.042,489.722,942.393,395.064,074.084,753.10
Cilâ Uchaf1,351.101,576.291,801.472,026.662,477.032,927.403,377.764,053.324,728.88
Pob rhan arall o ardal Cyngor Abertawe1,329.741,551.371,772.991,994.622,437.872,881.123,324.363,989.244,654.12

Prisiadau a bandiau Treth y Cyngor

Prisiadau

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Yn agor ffenestr newydd) yn cynnal Rhestr Brisio Treth y Cyngor sy'n penderfynu ar werth eich eiddo yn seiliedig ar ei werth cyfalaf ar 1 Ebrill 2003. Hyd yn oed os cafodd ei adeiladu ar ôl y flwyddyn honno, caiff ei brisio gan ddefnyddio gwerthoedd 2003. Os yw'r eiddo wedi'i addasu neu ei estyn ers 2003, neu os caiff ei addasu neu ei estyn, gall hyn effeithio ar y band ac os yw'r newid hwn wedi cynyddu gwerth yr eiddo, gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio gynyddu band eich eiddo o'r adeg y byddant yn cofnodi'r addasiad ar y rhestr brisio Treth y Cyngor.

Bandiau

Mae bandiau Treth y Cyngor yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru ac mae'r ystod bresennol o brisiadau ym mhob band fel a ganlyn:

  • Band A = Dan £44,000
  • Band B = £44,001 to £65,000
  • Band C = £65,001 to £91,000
  • Band D = £91,001 to £123,000
  • Band E = £123,001 to £162,000
  • Band F = £162,001 to £223,000
  • Band G = £223,001 to £324,000
  • Band H = £324,001 to £424,000
  • Band I = £424,001 ac yn uwch

Gallwch weld beth yw band eich eiddo ar eich bil.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fandiau a phrisiadau yn adran Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar wefan GOV.UK:

Close Dewis iaith