Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Bridwyr cŵn

Os ydych yn bridio cŵn ac yna'n gwerthu'r rhai bychain maent yn rhoi geni iddynt, ystyrir eich bod yn cynnal busnes bridio cŵn. Os ydych eisoes yn bridio neu fwriadu gwneud hynny yn y dyfodol, bydd rhaid i chi gael trwydded gennym.

Cyn i ni gyflwyno'r drwydded, bydd swyddog o'r cyngor yn archwilio'r mangre i sicrhau y bydd llety, bwyd ac ymarfer corff addas yn cael eu darparu ar gyfer yr anifeiliaid ac y byddant yn cael eu diogelu rhag clefydau a thân. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn i filfeddyg fynd gyda ni. Mae angen i chi sicrhau bod gennych Cynllunio ar gyfer y rhain i gyd cyn gwneud cais.

Sut mae gwneud cais

Gwneud cais am drwydded bridiwr cŵn Gwneud cais am drwydded bridiwr cŵn

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Codir ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg os bydd un.

 

Ffïoedd

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.  Bydd gofyn i chi dalu ffi bellach ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.

 

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk.

Gwneud cais am drwydded bridiwr cŵn

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded sefydliad bridio cŵn.

Cwestiynau cyffredin am fridio cŵn

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am fridio cŵn.

Cofrestr bridwyr cŵn trwyddedig

Rydym yn cynnal cofrestr gyhoeddus o'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.
Close Dewis iaith