Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arweiniad ar gyflwyno cais am drwydded sefydliad marchogaeth

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am drwydded sefydliad marchogaeth dylech ddarllen yr arweiniad hwn fel eich bod yn gwybod sut mae trwyddedu'n gweithio a'r hyn sy'n ddisgwyliedig gennych.

1. Gellir rhoi trwydded i unigolyn dros 18 oed neu gorff corfforaethol.

Bydd yn amod o unrhyw drwydded a roddir na fydd y busnes a weithredir gan sefydliad marchogaeth yn cael ei adael dan reolaeth person dan 16 oed ar unrhyw adeg.

2. Bydd yn amod o unrhyw drwydded a roddir na fydd unrhyw geffyl yn cael ei ryddhau ar hur at ddiben marchogaeth neu'n cael ei ddefnyddio er mwyn rhoi hyfforddiant marchogaeth heb oruchwyliaeth gan berson cyfrifol 16 oed neu'n hŷn oni bai (yn achos ceffyl sy'n cael ei roi ar hur at ddiben marchogaeth) fod deiliad y drwydded yn fodlon bod y sawl sy'n hurio'r ceffyl yn gymwys i farchogaeth heb oruchwyliaeth.

3. i) mae "ceffyl" yn cynnwys unrhyw gaseg, ceffyl disbaidd, merlyn, ebol, eboles neu farch, a hefyd unrhyw asyn, mul neu gorfarch.

ii) mae'r Ddeddf yn rheoleiddio sefydliadau marchogaeth sy'n rhyddhau ceffylau ar hur neu'n eu defnyddio'n gyfnewid am dâl at ddibenion darparu cyfarwyddiadau marchogaeth, neu arddangos marchogaeth.

4. Mae trwydded yn ddilys o'r dyddiad cyhoeddi neu o ddiwrnod cyntaf mis Ionawr nesaf. Nodwch eich dyddiad dewisol ar y ffurflen gais.

5. Mae mangreoedd o'r fath yn destun ymweliadau blynyddol sy'n cynnwys archwiliad gan filfeddyg. Sylwer, wrth wneud cais am drwydded gofynnir i chi dalu'r ffi ymgeisio'n unig. Cyflwynir anfoneb i chi dalu am ymweliad y milfeddyg ar ôl yr ymweliad.

6. Sicrhewch fod gennych ganiatâd cynllunio ar gyfer yr holl stablau ac unrhyw adeiladau cysylltiedig eraill cyn gwneud cais am drwydded sefydliad marchogaeth.

Close Dewis iaith