Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwybodaeth Hygyrchedd

Gwybodaeth pwysig i chi wybod amdano cyn i chi ymweld ag Archifau Gorllewin Morgannwg.

Our Collections
1. Hygyrchedd yr Adeilad

Parcio: Mae 16 lle parcio penodol ar gyfer pobl anabl sy'n ymweld â'r Ganolfan Ddinesig. O'r rhain mae 4 lle wedi'u lleoli wrth waelod y ramp mynediad i'r brif fynedfa. Mae 12 lle pellach ar gael yn Maes Parcio'r Dwyrain.

  • Mae mynediad i'r Ganolfan Ddinesig drwy fynedfa awtomatig ar yr un lefel â Maes Parcio'r Dwyrain. Mae pob ardal gyhoeddus yn y Ganolfan Ddinesig yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.
     
  • Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ar lawr gwaelod y Ganolfan Ddinesig, ac yn llwyr hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae mynediad awtomatig yn galluogi mynediad hwylus.
     
  • Anifeiliaid: Croesewir cŵn tywys. Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid eraill yn y Ganolfan Ddinesig.
     
  • Toiledau: Mae toiledau hygyrch ar lawr gwaelod y Ganolfan Ddinesig, ger y brif dderbynfa. Yn ogystal, mae ystafell newid ger y brif dderbynfa. Darpara hyn gyfleusterau toiled hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu difrifol a lluosog a phobl anabl eraill sy'n methu defnyddio toiledau hygyrch safonol. Darpara'r cyfleuster le ychwanegol ar gyfer pobl anabl â'u cynorthwywyr neu ofalwyr personol, a mainc newid y gellir addasu ei huchder a theclyn codi.
     
  • Mae cyfleusterau newid babanod ar gael ger prif dderbynfa'r Ganolfan Ddinesig.
     
  • Lluniaeth: Mae Caffi'r Glannau ar lawr gwaelod y Ganolfan Ddinesig, ger y brif dderbynfa.
     

2. Ymholiadau a derbyniadau

  • Mae taflenni gwybodaeth ar gael ar ffurf print safonol a phrint mawr.
     
  • Mae gan bob desg a chownter ymholiadau adrannau is ac mae systemau dolen ar gael.
     
  • Seddau: mae dewis o seddau gyda breichiau a heb freichiau ar gael yn Ystafell Chwilio'r Archifau.
     

3. Gweithdrefnau Argyfwng

  • Os bydd argyfwng/gorfod gwacáu, os yw hi'n ddiogel gwneud hynny, dylai pob ymwelydd adael yr adeilad drwy'r allanfa argyfwng ar y llawr gwaelod, ger Derbynfa'r Archifau. Bydd staff y Gwasanaeth Archifau'n cyfeirio ymwelwyr at yr allanfa hon.
     

4. Defnyddio'r Ganolfan Hanes Teulu ac Ystafell Chwilio'r Archif

  • Mae chwyddwydrauar gael i'w benthyg o'r desgiau ymholiadau.
     
  • Mae chwyddwydr fideo Quicklook hefyd ar gael i'w fenthyg o'r desgiau ymholiadau. Gellir defnyddio'r teclyn llaw hwn i ehangu'r testun ar sgrîn arddangos er mwyn hwyluso'i ddarllen.
     

5. Gwybodaeth bellach

  • Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad eraill, neu os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â ni.
Close Dewis iaith