Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheoliadau'r Ystafell Ymchwilio

Gofynnir i'n holl ymchwilwyr i ddilyn y rheolau hyn. Maen nhw i sicrhau diogelwch y dogfennau sydd o dan ein gofal.

Family History
1. Rhaid i ddarllenwyr sy'n bwriadu defnyddio dogfennau gwreiddiol cael tocyn darllenydd. Nid yw hwn yn drosglwyddadwy, a dylai ei ddangos pob amser yr ymwelwch â'r Gwasanaeth Archifau. Mae cofrestru am docyn darllenydd yn cynrychioli cytundeb i ddilyn y rheoliadau hyn.

2. Nid oes hawl gan ddarllenwyr i smygu, yfed na bwyta yn yr ystafell ymchwilio.

3. Gellir defnyddio pensil yn unig i wneud nodiadau yn yr ystafell ymchwilio.

4. Rhaid rhoi bagiau a bagiau dogfennau yn y loceri yn y man derbyn.

5. Ni ddylid ysgrifennu ar ddogfennau neu eu marcio mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylai darllenwyr bwyso ar unrhyw ddogfen neu roi unrhyw lyfr, papur neu ddogfen neu eitem arall arni. Gellir dargopïo ar ôl trefnu gyda'r staff, ond mae'n bosib y byddant yn nodi'r ffordd y dylid gwneud hyn. Dylai darllenwyr adrodd am unrhyw ddifrod i ddogfennau i'r Archifydd.

6. Rhoddir dogfennau yn ôl doethineb y staff Archifau. Ni ddylid mynd â dogfennau o ystafell ymchwilio'r archifau. Dylai darllenwyr ddychwelyd dogfennau nad oes eu hangen mwyach arnynt i'r staff Archifau. Dylid dychwelyd yr holl ddogfennau i'r staff erbyn 4.45pm (6.45 ar ddydd Mawrth).

7. Ni ellir defnyddio mwy nag un bwndel neu ffeil, neu 3 chyfrol ar unrhyw un adeg. Pan fydd darllenydd yn cael dogfennau rhydd mewn bwndel neu ffeil, rhaid cadw'r eitemau hyn yn y drefn gywir ac yn eu ffolder eu hunain. Mae amodau tebyg yn berthnasol wrth roi deunyddiau ffotograffig. Bydd y staff yn cyfrif ac yn gwirio'r papurau neu'r ffotograffau cyn eu rhoi a byddant hefyd yn eu gwirio pan fyddant yn cael eu dychwelyd.

8. Rhaid cadw ystafell chwilio'r archifau mor dawel â phosib er ystyriaeth darllenwyr eraill. Gofynir i ddarllenwyr beidio â ffonio na derbyn galwadau symudol yn yr ardal hon.

9. Gellir llun-gopïo yn ôl doethineb y staff Archifau. Ni chaniateir llun-gopïo os bydd risg o ddifrod i ddogfennau neu pan fydd yr hawlfraint yn cael ei chadw. Ac eithrio achosion lle cedwir hawlfraint, gall darllenwyr dynnu llun o ddogfennau â chamera os bydd y ffurflen datgan hawlfraint berthnasol wedi'i chwblhau. Er y gall darllenwyr gyfeirio a dyfynnu'n rhydd o'r rhan fwyaf o ddogfennau, dylid gofyn am ganiatâd i atgynhyrchu dogfennau, mapiau a deunydd darluniadol yn ysgrifenedig gan Archifydd y Sir, y gallai fod tâl amdano.