
Cyfrifianellau Budd-daliadau
Defnyddiwch amcangyfrif o fudd-daliadau annibynnol i ganfod yr hyn y gallech fod yn gymwys i'w gael.
Cyfrifianellau Budd-daliadau
Defnyddiwch gyfrifiannell annibynnol i ganfod y canlynol:
- Pa fudd-daliadau y gallech eu derbyn
- Sut i hawlio
- Sut yr effeithir ar eich budd-daliadau os ydych yn dechrau gweithio
https://benefits-calculator.turn2us.org.uk/
Bydd angen gwybodaeth gywir arnoch am y canlynol:
- cynilion
- incwm, gan gynnwys partneriaid (o slipiau cyflog er enghraifft)
- budd-daliadau a phensiynau presennol (gan gynnwys unrhyw un sy'n byw gyda chi)
- treuliau (megis rhent, morgais, taliadau gofal plant)
- bil treth y cyngor
Ni allwch ddefnyddio'r cyfrifianellau os ydych yn iau na 18 oed, ac ni fyddant yn rhoi canlyniadau cywir os ydych yn un o'r canlynol:
- carcharor
- myfyriwr
- ddim yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
- ar streic
- yn byw y tu allan i'r DU
- yn byw'n barhaol mewn gofal preswyl neu gartref nyrsio