Chwilio'r wefan
English

Ysgol Gynradd Gatholig Illtyd Sant - Trefniadau Derbyn 2021/2022

Ysgol Gynradd Gatholig yn Esgobaeth Mynyw yw Illtud Sant a gynhelir gan Awdurdod Addysg Lleol Abertawe.

Corff llywodraethu'r ysgol sy'n gyfrifol am bennu a gweinyddu'r polisi sy'n ymwneud a derbyn disgyblion i'r ysgol. Caiff ei arwain yn y cyfrifoldeb hwnnw gan:

  • ofynion y gyfraith
  • cyngor ymddiriedolwyr yr esgobaeth ar natur a diben ei ddyletswyddau
  • ei ddyletswydd i'r ysgol a'r gymuned Gatholig y mae'n eu gwasanaethu
  • cymeriad Catholig yr ysgol a'i datganiad o genhadaeth
  • cydnabyddiaeth o ffin y plwyf

Yn y lle cyntaf, mae'r ysgol yn darparu ar gyfer plant a fedyddiwyd yn Gatholigion sy'n byw ym mhlwyfi Illtud Sant a'r Galon Sanctaidd, Ystradgynlais.

Ein rôl bennaf fel ysgol Gatholig yw cyfranogi yng nghenhadaeth y ffydd Gatholig. Bydd yr ysgol yn helpu'r plant i ddatblygu'n llawn fel bodau dynol a'u paratoi i gyflawni eu cyfrifoldebau fel Catholigion mewn cymdeithas. Mae'r ysgol yn gofyn i rieni sy'n gwneud cais am le yma i barchu'r ethos hwn a'i bwysigrwydd i gymuned yr ysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt yn dilyn crefydd yr ysgol hon o ran gwneud cais am le yn yr ysgol a chael eu hystyried am le.

Ar ôl ymgynghori â'r ALl ac eraill, yn unol â gofynion y gyfraith, mae'r Corff Llywodraethu wedi cyhoeddi ei fod yn gallu derbyn uchafswm o 30 o ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen i'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ym mis Medi 2019.

Dylai rhieni gwblhau ffurflen gais gyffredin ar-lein yr Awdurdod Lleol a fydd ar gael rhwng 8fed Hydref 2018 a 1af Rhagfyr 2018. Bydd unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad yma yn cael eu ystyried fel ceisiadau hwyr ac ni fyddent yn cael eu ystyried hyd nes ar ôl y diwrnod cynnig ar 15fed Ebrill 2019.

Nodiadau

Mae'r Corff Llywodraethu wedi dirprwyo cyfrifoldeb am bennu derbyniadau i'w Bwyllgor Derbyniadau a fydd yn ystyried yr holl geisiadau yn unol â'r meini prawf a nodir.

Bydd disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol yn mynd i'r dosbarthiadau Derbyn ym mis Medi 2018.

Yn unol â'r gyfraith, ni fydd y Corff Llywodraethu'n derbyn mwy na 30 o ddisgyblion i unrhyw un dosbarth Derbyn neu Fabanod.

Meini prawf gorymgeisio

Lle mae nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethu'n defnyddio'r meini prawf gorymgeisio canlynol:

  1. *Plant sydd wedi'u bedyddio'n Gatholig a disgyblion bedydd sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol.
  2. *Plant sydd wedi'u bedyddio'n Gatholigion a disgyblion bedydd sy'n byw yn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol.
  3. *Plant sydd wedi'u bedyddio'n Gatholigion a disgyblion bedydd eraill y mae ganddynt frawd neu chwaer yn yr ysgol ar adeg eu derbyn tebygol. Mae hyn yn cynnwys brodyr a chwiorydd llawn, hanner a llys frodyr a chwiorydd, brodyr a chwiorydd maeth a mabwysiedig neu blant partner y rhiant/gofalwr ac ym mhob achos sy'n byw yn yr un cyfeiriad ac yn rhan o'r un uned deuluol.
  4. *Plant sy'n derbyn gofal gan Awdurdod Lleol (plant mewn gofal) neu y mae'r Awdurdod Lleol yn darparu llety ar eu cyfer (e.e. plant gyda rhieni maeth).
  5. Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer yn yr ysgol ar adeg eu derbyn.
  6. Plant o enwadau Cristnogol eraill. (Mae prawf bedyddio ar ffurf Tystysgrif Bedydd neu gadarnhad ysgrifenedig bod y sawl sy'n gwneud cais yn aelod o'i gymuned ffydd gan Weinidog Crefydd yn ofynnol.)
  7. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae ganddynt frawd neu chwaer yn yr ysgol ar adeg eu derbyn.
  8. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni'n awyddus iddynt gael addysg Gatholig. (Mae prawf bedyddio ar ffurf Tystysgrif Bedydd neu gadarnhad ysgrifenedig bod y sawl sy'n gwneud cais yn aelod o'i gymuned ffydd gan Weinidog Crefydd yn ofynnol.)
  9. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni am i'w plant gael addysg Gatholig.
  10. Plant y mae'r ALl wedi gofyn yn benodol am le yn yr ysgol iddynt.

Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael mewn unrhyw un o'r categorïau uchod, bydd y Pwyllgor Derbyniadau, yn y lle cyntaf, yn cynnig lleoedd i'r plant sy'n byw'n agosaf at yr ysgol trwy fesur llinell syth o ddrws blaen cyfeiriad cartref y plentyn (gan gynnwys mynedfa gymunedol i fflatiau) i brif fynedfa'r ysgol gan ddefnyddio system fesur gyfrifiadurol yr Awdurdod Lleol, gan roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol.

Mewn achosion prin, lle nad yw'r pellter yn cynorthwyo wrth dorri dadl, er enghraifft, gan fod gefeilliaid/tripledi yn yr un tŷ neu lle mae pellter cartrefi dau blentyn neu fwy o'r ysgol yn union yr un peth neu lle byddai derbyn disgybl arall yn arwain at oblygiadau o ran maint dosbarth, eir ati i ddethol ar hap i bennu dyrannu lleoedd.

Mae'r lleoedd a gynigir yn amodol ar dderbyn prawf gan rieni/gofalwyr o'r wybodaeth a nodir ar eu ffurflen gais a chaiff ei defnyddio wrth ddyrannu lleoedd. Gall yr ysgol ofyn, er enghraifft, am dystiolaeth o fedydd, dyddiad geni a chyfeiriad cartref. Gall peidio â darparu dogfennau prawf arwain at dynnu lle yn ôl.

*Disgybl bedydd, person sy'n cael ei hyfforddi, person sy'n derbyn hyfforddiant gan holiedydd yn egwyddorion y grefydd Gristnogol gan ganolbwyntio ar fedydd. Mae person sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig yn golygu, o fewn y polisïau a'r arferion sy'n ymwneud â derbyniadau ysgol, unrhyw blentyn sydd, cyn y dyddiad y mae'r cais yn ofynnol, wedi'i fedyddio'n Gatholig neu sydd, ar ôl ei fedyddio i 94 enwad Cristnogol arall y cydnabyddir ei fedyddiadau gan yr Eglwys Gatholig, ar ôl hynny wedi cael ei dderbyn yn ffurfiol i'r Eglwys Gatholig.

Trefniadau derbyn plant

  1. Ystyrir yr holl geisiadau ar yr un pryd ac ar ôl y dyddiad cau a'u cytuno gan y Pwyllgor Derbyniadau. Y dyddiad ar gyfer cynnig llefydd yn y dosbarth derbyn yw 15 Ebrill 2019.
  2. Hysbysir rhieni, drwy lythyr oddi wrth yr ysgol, ynghylch penderfyniad y Pwyllgor Derbyniadau erbyn mis 15 Ebrill 2019. Os yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus, mae gofyn iddynt gadarnhau eu bod yn derbyn lle erbyn mis Ebrill 2019.
  3. Os nad yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus, bydd y llythyr oddi wrth yr ysgol yn rhoi rhesymau dros y penderfyniadau, yn hysbysu rhieni o'u hawl i apelio ac yn rhoi arweiniad ar sut dylid gwneud yr apêl.
  4. Cedwir rhestr aros o'r plant na chynigiwyd lle iddynt, a'u trefnu yn ôl y meini prawf derbyn. Os daw lleoedd ar gael, cânt eu hailddyrannu o'r rhestr aros, yn nhrefn blaenoriaeth. Ni fydd y rhestr aros yn gweithredu ar ôl diwedd tymor yr hydref.

Nodiadau

1.  Er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn Gatholig, bydd tystiolaeth o fedydd Catholig neu dderbyn i'r Eglwys yn ofynnol.

Mae rhywun sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig yn rhywun sydd wedi cael ei fedyddio i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy ddefodau bedydd un o'r eglwysi defodol amrywiol mewn cymundeb ag Esgobaeth Rhufain (Cf. Catecism yr Eglwys Gatholig, 1203). Gellir cael tystiolaeth ysgrifenedig o'r bedydd hwn drwy archwilio Cofrestri Bedydd yr eglwys lle cynhaliwyd y bedydd.

Neu

Berson sydd wedi'i fedyddio mewn cymuned eglwysig ar wahân ac ar ôl hynny wedi'i dderbyn i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy Ddefod Derbyn Cristnogion a Fedyddiwyd i Gymundeb Llawn â'r Eglwys Gatholig. Gellir cael tystiolaeth ysgrifenedig o'u bedydd a'u derbyn i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy archwilio'r gofrestr dderbyniadau, neu mewn rhai achosion, is-adran o gofrestri bedydd yr eglwys lle cynhaliwyd y "Ddefod Derbyn".

Bydd y Corff Llywodraethu yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf tystysgrif bedydd neu dystysgrif derbyn cyn iddynt ystyried cynnwys ceisiadau am leoedd ysgol mewn categorïau "Catholigion Bedyddiedig". Bydd tystysgrif bedydd neu dderbyn yn cynnwys: yr enw llawn, dyddiad geni, dyddiad bedydd neu dderbyn ac enw(au)'r rhiant (rhieni). Rhaid i'r dystysgrif hefyd ddangos ei bod wedi'i chopïo o'r cofnodion a gedwir gan leoliad y bedydd neu'r derbyn.

Hwyrach y bydd y rhai sy'n cael anhawster dod o hyd i dystiolaeth ysgrifenedig o'u bedydd, a hynny am reswm dilys, yn cael eu hystyried fel Catholigion bedyddiedig, ond dim ond ar ôl iddynt gael eu cyfeirio at eu hoffeiriad plwyf a fydd, ar ôl ymgynghori â'i Ficer Cyffredinol, yn penderfynu sut i ddatrys mater y bedydd a sut i gynhyrchu tystiolaeth ysgrifenedig yn unol â chyfraith yr Eglwys.

Byddai'r rhai yr ystyrir bod ganddynt reswm da dros fethu â chael tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gallu cysylltu â lleoliad y bedydd oherwydd erledigaeth neu ofn neu fod yr eglwys a'r cofnodion gwreiddiol wedi'u dinistrio, neu fod y lleoliad lle gweinyddwyd y bedydd yn ddilys ond nid yn eglwys y plwyf lle cedwir cofnodion.

Mae'n bosib y bydd llywodraethwyr yn gofyn am dystiolaeth gefnogi ychwanegol os nad yw'r dogfennau ysgrifenedig yn egluro'r ffaith y cafodd yr unigolyn ei fedyddio neu ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig (h.y. os nad yw enw a chyfeiriad yr eglwys ar y dystysgrif neu os nad yw enw'r eglwys yn dynodi ei bod yn eglwys Gatholig.)

2.  Ystyrir mai cyfeiriad cartref disgybl yw preswylfa barhaol y plentyn. Mae'n rhaid mai unig neu brif drigfan y plentyn yw'r cyfeiriad. Efallai bydd tystiolaeth ddogfennol yn ofynnol - e.e. cyfeiriad talu budd-dal plant.

3.  Lle rhennir gofal yn gyfartal rhwng mam a thad, y cyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer y broses ddyrannu fydd cyfeiriad y rhiant sy'n derbyn y Budd-dal Plant. Bydd tystiolaeth ddogfennol yn ofynnol.

4.  Caiff ceisiadau hwyr (y rhai a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau) eu hystyried wrth ochr y rhai a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau o dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • nid oedd y teulu wedi gallu cwblhau'r ffurflen gais cyn y dyddiad cau oherwydd eu bod wedi symud i ardal blwyf yr ysgol wedi i'r ffurflenni cais gael eu dosbarthu; neu
  • nid oedd y teulu'n gallu cydymffurfio ag amserlen y derbyniadau oherwydd amgylchiadau eithriadol a olygai nad oedd yn bosib i'r ceisiadau gyrraedd mewn pryd - rhaid nodi'r amgylchiadau'n ysgrifenedig a'u cysylltu â'r ffurflen gais.

Caiff ceisiadau a dderbynnir wedi'r dyddiad hysbysu (ar ôl cynnig lleoedd) eu hychwanegu at restr aros yr ysgol yn nhrefn blaenoriaeth y meini prawf.

Mae'n rhaid i rieni gwblhau ffurflen gais gyffredin yr awdurdod lleol

ymgeiswyr o'r dosbarth meithrin:

Os ydych yn dymuno i'ch plentyn drosglwyddo i ddosbarth derbyn, mae'n rhaid i chi ddilyn y weithdrefn dderbyn a amlinellir uchod. Nid oes trosglwyddo awtomatig o'r meithrin, ac nid yw mynychu dosbarth meithrin yn rhoi blaenoriaeth ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn. Darllenwch bolisi gorymgeisio'r ysgol.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer derbyniadau o fewn blwyddyn sylwi ar y canlynol:

Cyflwynir ceisiadau o fewn y flwyddyn yn uniongyrchol i'r ysgol. Gwneir ceisiadau ar gyfer derbyniadau o fewn y flwyddyn yn yr un ffordd â'r rhai a wneir yn ystod y rownd derbyniadau arferol. Os oes lle ar gael ac nid oes rhestr aros, bydd y Corff Llywodraethu yn derbyn y plentyn. Os derbynnir mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethu'n rhoi'r ceisiadau mewn trefn, yn unol â'r meini prawf gorymgeisio, gyda'r addasiadau canlynol. Rhoddir blaenoriaeth i blant Catholig nad ydynt wedi cael cynnig lle mewn ysgol arall yn syth ar ôl plant Catholig sy'n 'derbyn gofal'. Yn yr un modd, rhoddir blaenoriaeth i blant nad ydynt wedi cael cynnig lle mewn ysgol yn syth ar ôl plant sy'n 'derbyn gofal'. Os na ellir cynnig lle ar y pryd, gallwch ofyn i ni am y rhesymau dros hyn, a fe'ch hysbysir o'ch hawl apelio. Cynigir cyfle i chi fod ar restr aros. Caiff y rhestr aros ei chynnal gan y Corff Llywodraethu yn nhrefn y meini prawf gorymgeisio [fel y'u haddaswyd uchod ac nid yn nhrefn derbyn y ceisiadau] .

Tynnir enwau o'r rhestr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Pan ddaw lle ar gael, bydd y Corff Llywodraethu'n penderfynu pwy sydd ar frig y rhestr fel y gall yr ALl ddweud wrth y rhiant bod yr ysgol yn cynnig lle.

Ceisiadau hwyr

Ymdrinnir â cheisiadau sy'n cyrraedd ar ôl 6ed Mawrth 2019 ar ôl gwneud yr holl gynigion cychwynnol.

Nodiadau (mae'r nodiadau hyn yn rhan o'r meini prawf gorymgeisio)

Yr un ystyr sydd i 'blentyn sy'n derbyn gofal' ag a geir yn Is-adran 22 Deddf Plant 1989, ac mae'n golygu unrhyw blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu y mae'r ALl yn darparu llety iddo (e.e. plant a chanddynt rieni maeth) neu ei fod yn destun gorchymyn preswylio neu orchymyn gwarcheidwaeth arbennig wedi iddo dderbyn gofal.

Ystyr 'Catholig' yw aelod o Eglwys sydd mewn cymundeb ag Esgobaeth Rhufain. Mae hyn yn cynnwys yr Eglwysi Catholig Dwyreiniol. Fel arfer, bydd tystysgrif bedydd neu dderbyn gan awdurdodau'r Eglwys honno'n dystiolaeth o hyn.

'Preswylfa' - At ddibenion y polisi derbyniadau hwn, diffinnir 'preswylfa' fel y cyfeiriad lle mae plentyn yn byw am 50% neu fwy o'r wythnos ysgol.

Ystyr 'brawd neu chwaer' yw unrhyw frawd, chwaer, hanner brawd neu chwaer, brawd neu chwaer sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon sydd gan blentyn i riant neu bartner ac ym mhob achos, sy'n byw yn yr un tŷ o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Diffinnir plant o deuluoedd Catholig mewn gair a gweithred fel plentyn Catholig o deulu Catholig mewn gair a gweithred, lle caiff yr arfer hwn ei ddilysu gan eirda gan Offeiriad Catholig yn y fformat safonol a bennwyd gan yr Esgobaeth.

Ystyr 'Cristion' at ddibenion y polisi hwn yw aelod o un o'r eglwysi sy'n gysylltiedig ag 'Eglwysi Ynghyd' ym Mhrydain ac Iwerddon.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM