Chwilio'r wefan
English

Oriel yn barod i nodi Mis Hanes LGBT

Bydd un o atyniadau celf hen sefydledig Abertawe'n cael ei gweddnewid gan enfys ar 22 Chwefror.

GVLGBT

Bydd y digwyddiad Glynn Vivian gyda'r Hwyr am ddim diweddaraf yn dathlu mis hanes LGBT.

Bydd y cynulliad hwn ar ôl gwaith yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnwys nifer o berfformwyr LGBT+ gan gynnwys artist drag a rhagolwg o ddigwyddiad yn y ddinas a ysbrydolwyd gan Strictly Come Dancing.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rwyf wrth fy modd bod ein tîm yn y Glynn Vivian yn gweithio gydag eraill yn y ddinas i nodi Mis Hanes LGBT."

Mae croeso i bawb alw heibio'r digwyddiad, o 5pma tan 8pm. Mae' cynnwys bar dros dro a ddarperir gan un o fusnesau'r ddinas, Hoogah.

Bydd artist drag o Abertawe sef Ruby Slippers yn perfformio sioe gabare unigryw, gyda chymysgedd o ganu byw, meimio a chwerthin.

Bydd Jermin Productions yn siarad am eu digwyddiad sydd ar ddod sef Swansea Pride Hits the Dancefloor.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys  Gwilym Games o wasanaeth llyfrgelloedd y cyngor yn trafod ffigyrau hanesyddol o Abertawe a'u cysylltiadau LGBTQ.

Mae Glynn Vivian gyda'r Hwyr yn ddigwyddiad misol ar ôl oriau am ddim. Yn ogystal â mynediad i leoedd yr oriel, gall ymwelwyr fwynhau gweithdai celf a chrefft a rhestr newydd o weithgareddau bob mis. Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 5 Ebrill. 

Llun: Oriel Gelf Glynn Vivian mewn lliwiau'r enfys.

Mwy: www.orielglynnvivian.org, www.lgbthistorymonth.org.uk, www.swanseapride.co.uk

 

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM