maethu yn abertawe

cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol

maethu yn abertawe

Ein prif flaenoriaeth yw  creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned, bob amser.

Ni yw Maethu Cymru Abertawe – un o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n rhan o Maethu Cymru.

meddwl am faethu yn abertawe?

Adult with teenage boy in kitchen making food together

digwyddiad gwyboaeth

ymunwch â ni am ddigwyddiad ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am faethu - o gysur eich cartref eich hun.

dysgu mwy

pwy all faethu?

Mae Maethu Cymru Abertawe yn dathlu amrywiaeth. Mae dros 140 o deuluoedd lleol yn maethu gyda ni, ac mae pob teulu’n wahanol.

dysgu mwy
Excited face of a small boy

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael

dysgu mwy

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Dewch i glywed yn uniongyrchol beth mae maethu’n ei olygu gan ein teuluoedd maeth yn Abertawe.

pam maethu?

Mae’n ymwneud â rhoi dyfodol gwell i blant lleol. Gallwch wneud byd o wahaniaeth dim ond drwy fod yn chi eich hun, drwy ofalu a gwrando.

Rydyn ni’n darparu cefnogaeth bwrpasol ar gyfer eich taith faethu, o hyfforddiant arbenigol i lwfansau ariannol, felly dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae mwy o wybodaeth yma.

sut mae’n gweithio

Sut mae dod yn ofalwr maeth yn Abertawe a beth allwch chi ei ddisgwyl?

Mae maethu yn golygu ymroddiad ac ymrwymiad. Mae’n gallu bod yn heriol, ond mae’n rhoi llawer o foddhad hefyd.

Single male and children eating ice cream
y broses

Dysgwch sut mae cychwyn ar eich taith faethu, a beth i’w ddisgwyl nesaf.

y broses
woman and sisters making food
cefnogaeth a manteision

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth hael o fanteision a chefnogaeth ddiguro, bob dydd. Dysgwch fwy.

cefnogaeth a manteision

dod yn ofalwr maeth

Ydych chi’n breuddwydio am ddod yn ofalwr maeth yn Abertawe? Byddwn ni’n gweithio gyda chi i helpu i wireddu eich breuddwyd.

y gymuned faethu

Mae cymuned o ofalwyr maeth yn eich ardal leol. Dydyn nhw byth yn bell i ffwrdd felly does dim angen i chi deimlo eich bod ar eich pen eich hun. Fel ni, maent yma i’ch cefnogi. Rydym yn un tîm, â phob un ohonom yn gweithio gyda’n gilydd i adeiladu gwell dyfodol i’n plant lleol.

gymorth ariannol

Mae dewis bod yn ofalwyr maeth neu deulu sy’n maethu yn benderfyniad mawr i’w wneud. Mae’r gefnogaeth y mae Maethu Cymru Abertawe yn ei darparu i’n gofalwyr maeth yn un o’n prif flaenoriaethau. Pam? Gan eu bod yn haeddu’r holl gefnogaeth y mae arnynt ei hangen neu ei heisiau fel y gallant roi o’u gorau i’r plant y maent yn gofalu amdanynt. Rydym yn darparu cefnogaeth 1 i 1 a 24/7. Rydym yn darparu grwpiau cefnogi, boreau coffi, digwyddiadau a gweithgareddau i blant. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod bob amser yn cyfathrebu â’n gofalwyr maeth ac yn ymgynghori â nhw.

dysgu a datblygu

Mae bod yn ofalwr maeth yn golygu y byddwch yn derbyn ffioedd a lwfansau cystadleuol sy’n uwch na’r hyn a bennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn rhoi taliadau ychwanegol i’n gofalwyr ar gyfer gwyliau, y Nadolig a phenblwyddi gan ein bod yn cydnabod y gall y rhain fod yn gostus. Rydym hefyd yn rhoi taliad cadw i’n gofalwyr maeth am gyfnodau amser pan nad oes plentyn wedi’i leoli gyda nhw (er nad yw hyn yn debygol iawn). Mae’r swm y byddwch yn ei dderbyn fel gofalwr maeth yn seiliedig ar nifer o ffactorau fel y math o faethu rydych yn ei gynnig, faint o blant neu bobl ifanc rydych yn gofalu amdanynt, ynghyd â’u hanghenion penodol.

cefnogaeth

Bydd gennych fynediad at yr holl offer a hyfforddiant y bydd eu hangen arnoch i sicrhau y gallwch ddiwallu anghenion pobl plentyn yn eich gofal. O hyfforddiant craidd i gyrsiau hyfforddi arbenigol, rydym yn cynnig y cyfle i’n gofalwyr ddysgu a datblygu’n barhaus. Mae ein hymagwedd at ddysgu a datblygu yn hyblyg. Nid yw popeth yn cael ei ddysgu drwy gyrsiau hyfforddi a dyna pam rydym yn cydnabod y gall gofalwyr maeth ddysgu a datblygu drwy ddulliau eraill, fel: podlediadau, llyfrau, fideos, rhaglenni dogfen, gweminarau, erthyglau a llawer mwy.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltu â ni

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.