Chwilio'r wefan
English

Drama'r Rhyfel Mawr yn boblogaidd mewn ysgolion

Mae stori deimladwy am fachgen yn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi helpu menter ddiwylliannol yn Abertawe i ennill llawer o glod.

NaNogOystermouth

Mae ffigurau newydd yn dangos bod Prosiect Theatr Ysgolion blynyddol y ddinas wedi'i nodi fel digwyddiad "ardderchog" gan 97% o'r athrawon a gymerodd ran.

Roedd perfformiad diweddaraf y digwyddiad yn seiliedig ar ddrama The White Feather, sy'n disgrifio hanes ffuglennol a theimladwy bachgen ifanc a listiodd mewn ymdrech i blesio ei dad. Bu'n brwydro ym Mrwydr Coed Mametz lle lladdwyd llawer o filwyr o fataliynau de Cymru.

Mae'r cynllun blynyddol sy'n unigryw i Abertawe wedi'i gynnal am 29 o flynyddoedd. Cyflwynir y cynllun drwy Wasanaeth Amgueddfa Cyngor Abertawe mewn partneriaeth â sefydliad dwyieithog arobryn Theatr na nÓg ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Hoffwn longyfarch pawb a oedd yn rhan o'r Prosiect Theatr Ysgolion.

"Roedd bron 6,000 o bobl ifanc yn bresennol ym mherfformiad diweddaraf The White Feather ac mewn gweithdai am y Rhyfel Byd Cyntaf, gan greu mwy na £50,000 o gyllid i'r ddinas a chynnwys bron 100 o ysgolion."

Meddai Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg, "Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Abertawe am ddarparu sylfaen i ni alluogi pobl ifanc i fod yn rhan o'u diwylliant a'u hanes ac i'w gwneud yn rhan o'u haddysg o ddydd i ddydd."

Bob hydref, mae Prosiect Theatr Ysgolion Abertawe'n gweld ysgolion yn gwneud gwaith yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â diwrnod mewn lleoliadau diwylliannol a threftadaeth ym Marina Abertawe.

Roedd rhaglen ddiwylliannol yr hydref diwethaf yn cynnwys gweithdai ymarferol a rhyngweithiol yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Roedd cyfle i blant drafod rolau ag actorion ac i ddysgu mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru.

Cynhaliwyd gweithgareddau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cymerodd rai ysgolion ran yn y gweithgareddau gyda rhaglen allgymorth Technocamps Prifysgol Abertawe.

Mae arianwyr 2018 yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a chynllun Ewch i Weld y sefydliad.

Mae'r paratoadau'n mynd rhagddynt ar gyfer perfformiad eleni sy'n dathlu 30 o flynyddoedd ers sefydlu'r Theatr Ysgolion.

Llun Disgyblion Ysgol Gynradd Ystumllwynarth yn mwynhau Prosiect Theatr Ysgolion diweddaraf Abertawe.

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM