Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Tai myfyrwyr

Os ydych yn byw mewn llety ar rent oddi ar y campws yna mae gwiriadau y gallwch eu gwneud er mwyn sicrhau bod y tŷ neu'r fflat yn ddiogel ac yn addas ar eich cyfer.

Nid oes rhaid i rentu gan landlord preifat fod yn brofiad gwael. Mae nifer o landlordiaid da yn Abertawe'n cynnig llety diogel a fforddiadwy o safon i fyfyrwyr.

Dylai pob eiddo fod mewn cyflwr da, ac os oes unrhyw offer nwy (boeleri, tanau, gwresogyddion etc) mae'n rhaid iddynt gael eu gwirio'n flynyddol. Bydd landlordiaid yn gallu dangos tystysgrif ddiogelwch i denantiaid posib er mwyn cadarnhau hyn.

Tai amlbreswyl

Mae'r rhan fwyaf o eiddo myfyrwyr yn dai amlbreswyl (HMO). Mae hyn yn golygu bod pobl, nad ydynt yn perthyn i'w gilydd, yn byw gyda'i gilydd mewn eiddo a oedd yn addas ar gyfer un aelwyd yn wreiddiol h.y. teulu.

Mae rhaid bod trwydded gan rhai tai amlbreswyl, gan gynnwys yr holl dai amlbreswyl yn wardiau Castell, Uplands a St Thomas. Gallwch wirio ein cofrestr gyhoeddus Tai Amlbreswyl (TAB).

Rhagofalon tân mewn tai amlbreswyl

Mae'r perygl o dân mewn tŷ amlbreswyl yn llawer mwy na mewn cartref teulu, felly mae'n rhaid i landlordiaid gymryd rhagofalon ychwanegol yn erbyn tân megis darparu synwyryddion mwg a gwres, drysau tân ac offer ymladd tân. Mae hyn yn berthnasol i bob tŷ amlbreswyl, beth bynnag ei faint neu leoliad.

Cytundebau tenantiaeth

Dogfen gyfreithiol yw cytundeb tenantiaeth, felly mae'n bwysig eich bod yn deall ei ystyr cyn i chi lofnodi:

  • sicrhewch fod gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig
  • peidiwch â llofnodi unrhyw beth nes i chi weld yr eiddo
  • peidiwch ag arwyddo cytundeb ar sail gwelliannau'n cael eu gwneud cyn i chi symud i'r eiddo gan mae'n bosib na fydd yr addewidion hyn yn cael eu cadw.

Unwaith i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth, eich cyfrifoldeb chi yw talu'r rhent am hyd y contract, hyd yn oed os byddwch yn symud allan:

  • os ydych yn talu blaendal mae gan eich landlord 30 niwrnod o ddyddiad derbyn eich blaendal i rannu manylion y cynllun blaendal tenantiaeth (Yn agor ffenestr newydd) mae'n ei ddefnyddio. Bydd eich arian yn cael ei ddal yn y cynllun hwn a gefnogir gan y llywodraeth a dylai eich landlord ddweud wrthych beth fydd yn rhaid i chi ei wneud ar ddiwedd eich tenantiaeth gan gynnwys sut i gael eich arian yn ôl.
  • os ydych yn talu blaendal haf, gwiriwch i weld a ydych yn cael aros yn yr eiddo. Sicrhewch fod unrhyw beth a gytunwyd yn cael ei nodi, neu ei ychwanegu at eich cytundeb tenantiaeth.
  • sicrhewch fod eich cytundeb yn glir am bwy sy'n gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau.
  • os ydych yn byw yn yr un eiddo â'ch landlord bydd gennych lai o hawliau, ac yn y rhan fwyaf o achosion, gall eich landlord eich troi allan heb orfod mynd i'r llys. Byddwch yn ddaliwr trwydded nid yn denant.

Beth mae landlordiaid yn disgwyl o'u tenantiaid?

Fel tenant dylech wneud y canlynol:

  • adrodd am unrhyw ddadfeilio ar unwaith a chaniatáu mynediad rhesymol i'r landlord neu ei asiant er mwn cynnal archwiliad neu atgyweiriad
  • ymddwyn mewn ffordd resymol a chwrtais gan ystyried cymdogion a phreswylwyr eraill yn yr ardal
  • bod yn ymwybodol o anghenion y gymuned rydych yn byw ynddi
  • sicrhau nad oes unrhyw aflonyddwch, yn enwedig gyda'r hwyr
  • gofalu am yr eiddo, ei gelfi a'i offer
  • trin cyfarpar datgelu a diogelu rhag tân yn gyfrifol
  • rhoi sbwriel domestig ac ailgylchu mewn sachau a'u gadael allan i'w casglu yn y lle cywir ar y diwrnod cywir. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Sortwch e' - arweiniad ailgylchu a gwastraff i fyfyrwyr
  • cadw'r eiddo'n lân ac yn daclus gan gynnwys yr ardd a'r iard.

Os oes angen mwy o wybodaeth neu gyngor arnoch, gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ebostio evh@abertawe.gov.uk neu drwy ffonio 01792 635600.

Close Dewis iaith