Baneri ar y stryd yn croesawu'r byd i ddathliadau hanner can mlynedd
Mae baneri croesawu ac addurniadau stryd eraill sy'n dathlu hanner canmlwyddiant ers i Abertawe ddod yn ddinas wedi bod yn cael eu gosod ar oleuadau stryd mewn lleoliadau allweddol yng nghanol y ddinas ac ar hyd Heol Ystumllwynarth.
Bydd y paratoadau ar gyfer dathlu hanner canmlwyddiant ers i Abertawe gael statws dinas yn cynyddu dros yr wythnosau nesaf ac mae cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr gael bod yn rhan ohonynt.
Bydd Heol Ystumllwynarth, Ffordd y Dywysoges, gorsaf drenau y Stryd Fawr yn ogystal â Stryd Rhydychen a phrif goridor Heol Ystumllwynarth yn gweld goleuadau stryd yn cael eu haddurno gan ddefnyddio baneri aur a logo Abertawe 50.
Bydd waliau marchnad dan do eiconig Abertawe hefyd yn cael eu haddurno â baneri dros yr wythnosau nesaf er mwyn ychwanegu cyffro at haf bythgofiadwy yn y ddinas.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod croeso cynnes o'r fath i'r ddinas a'r rhesymau y tu ôl i'r dathliadau'n ddigamsyniol.
Meddai, "Bob blwyddyn dros yr haf rydym yn croesawu miliynau o ymwelwyr ag Abertawe ac rydym am rannu ein dathliadau gyda thwristiaid a phreswylwyr. Bydd y baneri sydd wedi'u gosod ar oleuadau stryd mewn lleoliadau strategol o gwmpas y ddinas yn sicrhau bod pawb - ymwelwyr a phreswylwyr - yn ymwybodol bod rhywbeth arbennig yn digwydd."
Daeth Abertawe i wybod ei bod am gael statws dinas pan ddaeth y Tywysog Charles, sef tywysog newydd Cymru i ymweld ag Abertawe ar 13 Gorffennaf 1969 i gyhoeddi'r newyddion i dorfeydd o bobl ar risiau Neuadd y Ddinas.
Ar 15 Rhagfyr 1969, dychwelodd i gyflwyno'r siarter ddinesig mewn seremoni yn Neuadd Brangwyn.
Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Diben Abertawe 50 yw dathlu'r ddinas a bwriedir i'r dathliadau fod yn ddigwyddiad cymunedol go iawn gyda llawer o bethau'n digwydd a llawer i'w gwneud. Rydym yn gobeithio y bydd unigolion, sefydliadau a chymunedau'n ymuno yn y dathlu ac am fod yn rhan o'r gwaith."
I weld y wefan ddynodedig ar gyfer rhai o'r digwyddiadau a gynhelir, ewch i www.abertawe.co.uk