Fideo yn rhoi hwb i Abertawe 50
Mae fideo cerddoriaeth a lansiwyd heddiw yn cynnig cipolwg cyffrous ar un o ddathliadau cynnar Abertawe 50.
Mae'r ffilm yn cynnig rhagolwg o'r sioe gerdd Calon Lân, sydd ar fin cael ei pherfformio yn Theatr y Grand wrth i Abertawe ddathlu ei hanner canmlwyddiant fel dinas.
Mal Pope o Abertawe sy'n gyfrifol am greu'r sioe gerdd, ac mae wedi ysgrifennu'r geiriau a chyfansoddi'r cerddoriaeth. Mae'n cynnwys ei gân Warm Wind.
Mae'r fideo yn cynnwys corau o'r Unol Daleithiau, Singapôr ac India yn ogystal â Chôr Orffews Treforys, Côr y DVLA a Chôr Ysgol Theatr Syr Harry Secombe.
Mae Mal yn esbonio'r stori:
"Yr hydref diwethaf, gofynnodd Paul Hopkins o Theatr y Grand a fyddai'n bosib creu cynhyrchiad i ddathlu Jiwbilî Aur Abertawe. Penderfynom greu sioe gerdd newydd yn seiliedig ar stori arbennig sy'n deillio o Abertawe.
"Mae Calon Lân yn adrodd stori wir Evan Roberts a'r Diwygiad ym 1904.
"Ond cytunom na ddylai'r sioe hon fod yn un sy'n myfyrio ar y gorffennol yn unig, a dylai adrodd stori sy'n berthnasol i fywyd presennol.
"Gyda'r syniad hwn mewn cof, roeddwn am ddod o hyd i brosiect partner a fyddai'n dangos sut mae stori Calon Lân yn dal i effeithio ar y byd. Pa ffordd well o wneud hyn na dod â'r byd ynghyd drwy ganu? Y gân olaf sy'n cael ei pherfformio yn y sioe gerdd yw Warm Wind, ond mae hefyd yn cyfuno â'r emyn Calon Lân. Gan ystyried hyn, dechreuais gysylltu â phobl ar draws y byd chwe mis yn ôl.
"Y dasg gyntaf oedd gofyn i fy mand, the Jacks, ddod ynghyd unwaith eto. Mewn sawl ffordd dyma oedd y peth anoddaf oherwydd eu bod oll bellach yn gweithio gyda phobl megis Chris De Burgh, Shakin' Stevens a Steve Balsamo.
"Llwyddais i drefnu dyddiad lle'r oedd y pedwar ohonom ar gael i gwrdd yn stiwdio Sonic One Tim Hamill yn Llangennech ar gyfer y sesiwn sylfaenol. Roedd rhaid i Nigel Hopkins recordio'i rannau ef mewn stiwdios roedd yn gweithio ynddynt ar brosiect i Chris De Burgh, a recordiodd Andrew Griffiths ei ran bres yn ei stiwdio yn Ystradgynlais.
"Cysylltais â'r côr cyntaf, sef New Hope Baptist Church o Atlanta, UDA. Daw gweinidog yr eglwys, Rhys Stennor, o Gymru, ac mae'n dod â'r côr i Gymru ar genhadaeth bob blwyddyn. Yr haf diwethaf perfformiodd y côr yn The Hyst, ac roeddwn i'n cyd-dynnu'n dda â'i gyfarwyddwr cerddorol, John Conrad.
"Yna, cysylltais â Cornerstone Church yn Singapôr sy'n frwd iawn am Ddiwygiad 1904.
"Fel is-lywydd Côr Orffews Treforys, roeddwn i'n hyderus yn fy ngallu i berswadio cyfarwyddwr cerddorol y côr, Joy Amman Davies, i gymryd rhan ac aethom ati i recordio'r côr gyda chymorth gan fyfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
"Roeddwn am i Theatr y Grand fod yn rhan o'r sioe hefyd. Ar y cyd â chyfarwyddwr cerddorol Côr Ieuenctid Syr Harry Secombe, Jonathan Lycett, aethom ati i recordio'r côr yn Adain Celfyddydau Theatr y Grand.
"Es i i'r DVLA i recordio'r côr sydd yno hefyd. Treuliom y rhan fwyaf o'r noson yn chwerthin ond, erbyn y diwedd, roeddem wedi llwyddo i recordio'r gân gyfan.
"Dyma'n ffordd ni o ddangos Abertawe ar ei hyfrytaf yn ogystal â chynnwys gweddill y byd ar yr un pryd."