Artistiaid i helpu cleifion i ymbincio ysbyty Abertawe
Mae dau artist yn cydweithio â chleifion a staff i weddnewid ward ysbyty yn Abertawe.
Gobaith Siân Hughes a Sarah Jane Richards yw y bydd eu gwaith cydweithredol yn darparu ysbrydoliaeth i'r rheiny sydd yn y ward ac yn eu cynorthwyo wrth iddynt wella.
Cawsant eu dewis ar y cyd gan staff gwasanaethau diwylliannol Cyngor Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe (PABM gynt).
Maent yn gweithio yn Ward Fendrod yng nghlinig Tawe Ysbyty Cefn Coed. Mae'r clinig yn darparu gwasanaethau asesu, ymyriadau a chefnogaeth therapiwtig i unigolion sy'n profi cyfnod iechyd meddwl llym lle bydd angen i'r claf aros yn yr ysbyty.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn falch y bydd Siân a Sarah Jane yn mynd ati i gydweithio â staff, rheolwyr a chleifion yn Ward Fendrod yr ysbyty.
"Hwn oedd y tro cyntaf i'r cyngor a'r bwrdd iechyd gydweithio â'i gilydd fel hyn. Mae'n bwysig i gyrff cyhoeddus gydweithio mewn ffyrdd tebyg i hyn; rydym am ddatblygu'r cysylltiad rhwng y celfyddydau ag iechyd yn gynghrair strategol fwyfwy pwerus."
Meddai David Roberts, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Gwasanaethau Bae Abertawe, "Bydd y prosiect hwn yn creu amgylchedd therapiwtig gwell sy'n cynnig croeso cynnes a thawel i gleifion, eu teuluoedd a'u ffrindiau.
"Drwy gyfuno celf â dylunio mewnol ar y safle, disgwylir i'r amgylchedd terfynol fod yn unigryw ac yn arbennig.
"Rydym yn falch bod Siân a Sarah Jane yn gweithio ar y prosiect hwn."
Cyfleuster ag 20 o welyau i ddynion yw Ward Fendrod, sy'n darparu gofal a thriniaeth i oedolion.
Bydd yr artistiaid, yn dilyn ymgynghori creadigol â chleifion, eu teuluoedd a staff, yn gweddnewid y ward â chelf. Gall y gwaith gynnwys palet lliw a nodweddion addurnol i waliau a ffenestri i greu mynedfa groesawgar, lleoedd cyfforddus i aros ynddynt yn ystod y dydd a lleoedd heddychlon, tawel i ymlacio a myfyrio.
Mae cyfnod dylunio'r artistiaid - a ddechreuodd ym mis Ebrill - yn cynnwys gweithgareddau sy'n cynnwys cleifion, teuluoedd a staff drwy ddeialog a chyfranogiad creadigol.
Meddai Siân Hughes, "Gyda'n gilydd, rydym yn archwilio ffyrdd o greu cysylltiadau rhwng pensaernïaeth y ward a'i hystafelloedd mewnol. Rydym am ddarparu cyfnodau calonogol mewn lleoliadau allweddol a defnyddio'r deunydd a'r caboliadau cywir i sicrhau y bydd y dyluniad yn gyfoes ac yn ddefnyddiol yn y tymor hir."
Meddai Sarah Jane Richards, "Yn ysbyty Cefn Coed, rydym am gydweithio â phobl eraill i greu naws nodweddiadol, unigryw, gynnes a chroesawgar ar gyfer y ward drwy waith sy'n ystyried y safle. Gyda'n gilydd, byddwn yn creu gwaith o safon sy'n deillio o gydweithio â'r gymuned."
Mae Siân a Sarah Jane yn bartneriaeth greadigol. Mae eu comisiynau'n cynnwys: Llwybr Cerfluniau Arfordir Sefton a phrosiect arobryn ar gyfer Uned Trawma Anafiadau i'r Ymennydd yn Ysbyty Treforys. Maent ar fin cychwyn ar brosiect cenedlaethol - Back From the Brink - sydd wedi'i arwain gan Natural England.
Mae gan y ddwy brofiad helaeth o waith celfyddydau ym maes iechyd, gydag oedolion diamddiffyn a defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, ynghyd â gweithio yn eu meysydd proffesiynol eu hunain.
Meddai Therapydd Galwedigaethol Ward Fendrod, Peter Ludbrook, "Gall celf drawsnewid bywydau staff, cleifion a gofalwyr.
"Heb os, mae gweddnewid amgylchedd clinigol a phlaen ag ysbrydoliaeth newydd a all gynorthwyo cleifion wrth iddynt wella, ynghyd â hyrwyddo tosturi, yn rhywbeth cadarnhaol."
Llun: Gweler yn y llun, a dynnwyd yn Ysbyty Cefn Coed, o'r chwith, rheolwr Ward Fendrod Janine John, swyddog gwasanaethau diwylliannol y cyngor Kate Wood, yr artist Siân Hughes, yr artist Sarah Jane Richards a'r Therapydd Galwedigaethol Peter Ludbrook.