Newidiadau i Faes Parcio'r Dwyrain yn y Ganolfan Ddinesig
Bydd newidiadau ar gyfer pobl sy'n defnyddio maes parcio'r dwyrain yn y Ganolfan Ddinesig o ddydd Llun 10 Mehefin ymlaen, pan ddaw'n faes parcio talu ac arddangos.
Bydd y cynnig o ddwy awr o barcio am ddim ar waith o hyd ond bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sydd am aros am gyfnod hwy dalu am unrhyw amser parcio ychwanegol.
Arddangosir y trefniadau newydd yn glir yn y maes parcio ac yn y Ganolfan Ddinesig. Gall ymwelwyr barcio am y ddwy awr gyntaf am ddim ond mae'n rhaid iddynt gael tocyn o'r peiriant talu ac arddangos o hyd pan fyddant yn parcio. Ceir manylion am sut i wneud hyn, ynghyd â'r taliadau ar gyfer oriau ychwanegol, ar arwyddion yn y maes parcio.
Gall ymwelwyr sydd â bathodyn glas dilys barcio am y tair awr gyntaf am ddim. Fodd bynnag, bydd yn rhaid iddynt hefyd sicrhau eu bod yn arddangos tocyn dilys.