Diwylliant Abertawe'n cael sylw gan y cyfryngau cenedlaethol
Mae sioe radio genedlaethol yn dod i Abertawe.
Bydd sioe Bookclub BBC Radio 4 yn cael ei recordio o flaen cynulleidfa yng Nghanolfan Dylan Thomas ddydd Iau, 20 Mehefin.
Bydd y cyflwynydd, James Naughtie, yn siarad â'r awdur o Gymru, Owen Sheers, a fydd yn ateb cwestiynau'r gynulleidfa am ei nofel, I Saw a Man.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Wrth i Abertawe ddathlu ei hanner canmlwyddiant fel dinas, mae'n iawn i ni fwynhau'r sylw cenedlaethol."
Mae Owen Sheers yn nofelydd, yn fardd, yn ddramodydd ac yn Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Bwriedir i'r sioe Bookclubhon gael ei darlledu ar BBC Radio 4 ar 4 Awst am 4pm, a chaiff ei hail-adrodd ar 8 Awst am 3.30pm. Bydd ar gael fel podlediad o 4 Awst.
Llun Owen Sheers. Llun gan Charlotte Medlicott