Mwy o docynnau aur i'w hennill
Mae mwy o docynnau aur ar gael i breswylwyr Abertawe sydd am fod yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant dinas Abertawe.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth tocyn aur gyntaf i weld Alun Wyn Jones yn derbyn Rhyddid er Anrhydedd y ddinas.
Mae'r pâr nesaf o docynnau ar gyfer perfformiad gala sioe gerdd newydd sbon Mal Pope sef Calon Lân yn Theatr y Grand, Abertawe ar 29 Mehefin.
Mae'n cynnwys perfformiwr y West End a aned yn Abertawe, Claire Hammacott, a'r darlledwr a'r perfformiwr o Abertawe, Kev Johns. James Ifan fydd yn chwarae rôl Evan Roberts.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd enillwyr y tocynnau aur yn cael profiad anhygoel.
"Dyma'ch cyfle i fod yn un o'r bobl gyntaf i weld y sioe yn ystod y perfformiad gala llawn sêr yn Theatr y Grand ddydd Sadwrn 29 Mehefin."
Ewch i www.abertawe50.co.uk i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Calon Lân. Mae amodau a thelerau llawn ar gael ar ein gwefan.