Cyngor i ystyried datgan 'argyfwng hinsawdd'
Mae Cyngor Abertawe'n gwneud pob ymdrech i ddod yn un o awdurdodau lleol mwyaf ynni effeithlon Cymru.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae'r cyngor wedi lleihau ei ôl troed carbon 30%, ond mae cynlluniau ar y gweill i fynd cam ymhellach dros y blynyddoedd i ddod.
Mae rhybudd o gynnig a fydd yn cael ei gyflwyno i'r cyngor llawn ar 27 Mehefin sy'n datgan 'argyfwng hinsawdd' yn galw ar y ddinas gyfan i chwarae ei rôl wrth fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae Cyngor Abertawe bob amser wedi bod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth yn ei allu i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd lleol.
"Ar ben hynny, rydym yn ystyried ein hunain i fod yn llais arweiniol wrth annog eraill i ddilyn ein hesiampl. Dyma un o'r rhesymau pam rydym yn buddsoddi'n drwm wrth annog preswylwyr i ailgylchu eu gwastraff.
"Dyma pam rydym hefyd yn galw ar gynghorwyr a'r cyhoedd ehangach i gefnogi'r rhybudd o gynnig a chymryd y camau i fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd sy'n fygythiad i ddyfodol ein plant a'u plant nhw."