Tywysog Cymru i fod yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe
Bydd EUB Tywysog Cymru'n ymweld ag Abertawe'r wythnos nesaf i ddathlu hanner canmlwyddiant ers cyhoeddi statws dinas y gymuned.
Daeth y Tywysog i'r ddinas ar 3 Gorffennaf 1969, deuddydd ar ôl ei arwisgo fel Tywysog Cymru i gyhoeddi'r penderfyniad yn Neuadd y Ddinas Abertawe.
Ar yr un diwrnod, 50 mlynedd yn ddiweddarach, croesewir EUB Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn ôl ar 3 Gorffennaf ar gyfer dathlu'r hanner canmlwyddiant.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer pobl Abertawe ac mae'n bleser gennym groesawu EUB Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn ôl, 50 mlynedd wedi iddo gael ei arwisgo a 50 mlynedd i'r diwrnod ers cyhoeddi y byddai Abertawe'n dod yn ddinas.
Mae dathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe wedi bod ar waith am nifer o wythnosau a byddant yn parhau tan fis Rhagfyr i nodi'r adeg y rhoddwyd statws dinas swyddogol i Abertawe.