Cyfnod cofrestru ac enwebu ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2019 ar agor
Mae'r broses o ddod o hyd i westy, tŷ bwyta a lleoliad cerddoriaeth fyw gorau Bae Abertawe wedi dechrau.
Bydd modd cofrestru ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2019, sydd wedi'u trefnu ar y cyd â Chyngor Abertawe a Thwristiaeth Bae Abertawe, o 1 Gorffennaf ymlaen.
Gall cwmnïau ddewis o gategorïau sy'n cynnwys y gwesty gorau, yr atyniad gorau, y busnes twristiaeth gorau sy'n addas i gŵn a'r llysgennad twristiaeth ifanc gorau.
Rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn dydd Sul 8 Medi, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd Brangwyn nos Iau 14 Tachwedd.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Gwnaeth 4.8m o bobl ymweld â Bae Abertawe y llynedd gan ddod â gwerth bron £448m i'r economi leol. Helpodd hyn i gefnogi dros 5,700 o swyddi.
"Mae ein busnesau twristiaeth yn amlwg yn gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi felly maen nhw'n llawn haeddu'r gydnabyddiaeth."
Meddai Stephen Crocker, Cadeirydd Twristiaeth Bae Abertawe, "Mae'r gwobrau'n agored i fusnesau twristiaeth ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot." Mae'n bwysig bod y busnesau a'r sefydliadau hyn, sy'n mynd gam ymhellach, yn cael eu cydnabod am eu rhagoriaeth."
Ewch i www.swanseabaytourismawards.co.uk am fwy o wybodaeth.
Llun Derbyniodd The Fountain Inn Wobr Twristiaeth Bae Abertawe yn 2017. Eleni maen nhw'n noddi'r categori, lleoliad gorau ar gyfer priodasau. Llun gan Steve Phillips Photography