Chwilio'r wefan
English

Sioe Awyr Cymru yn syfrdanu torfeydd enfawr

Mae Sioe Awyr Cymru wedi dathlu blwyddyn lwyddiannus arall yn Abertawe gyda channoedd ar filoedd o bobl yn ymweld â'r ddinas i fwynhau sioe am ddim fwyaf y wlad.

Red Arrows Air Show

Dau ddiwrnod o hedfan a oedd yn cynnwys y Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain a'r sioe 'Gyda'r Hwyr' gyntaf erioed, a rhoddodd atyniad newydd i'r sioe awyr i ymwelwyr o bob cwr o'r DU.

Daeth torfeydd enfawr i fwynhau amrywiaeth o arddangosfeydd a gweithgareddau ar y ddaear yn ogystal ag yn yr awyr trwy'r penwythnos er mwyn helpu i ddathlu un o ddigwyddiadau nodedig dathliadau Abertawe 50.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, "Roedd yn benwythnos arbennig arall yn Abertawe. Ar hanner canmlwyddiant Abertawe yn derbyn statws dinas, roedd y digwyddiad Gyda'r Hwyr yn llwyddiant enfawr.

"Roedd y balwnau aer poeth, Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers, Tîm Arddangos Erobateg y FireFlies ac yna'r arddangosfa tân gwyllt wedi creu awyrgylch parti arbennig.

Am fwy o wybodaeth am yr haf yn Abertawe, ewch i www.joiobaeabertawe.com  

Wedi'i bweru gan GOSS iCM