Cyrsiau achub bywyd yn agor drysau i fyd o gyfleoedd
Cynhelir cyrsiau achub bywyd sy'n rhoi'r sgiliau achub bywyd hanfodol i bobl ac sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir ledled y byd ym Mhwll Cenedlaethol Cymru'r haf hwn.
Mae Tîm Diogelwch Dŵr Cyngor Abertawe'n cynnal yr hyfforddiant fel rhan o'i gefnogaeth i fenter #ByddwchYnAchubwrBywyd y Gymdeithas Achub Bywyd Brenhinol.
Cynhelir dau gwrs - y cyntaf rhwng 22 a 28 Gorffennaf a'r ail rhwng 12 ac 18 Awst.
Yn ogystal â darparu'r cymhwyster i weithio fel achubwyr bywyd mewn pyllau ar draws y DU, caiff Cymhwyster Achubwyr Bywyd y Pwll Cenedlaethol ei chydnabod yn rhyngwladol ac felly mae'n agor drysau i gyfleoedd i weithio dramor.
Mae angen i bob ymgeisydd sy'n bresennol ar gwrs Cymhwyster Achubwyr Bywyd y Pwll Cenedlaethol fod yn 16 oed ar adeg asesiad terfynol Cymhwyster Achubwyr Bywyd y Pwll Cenedlaethol ac yn nofiwr gymwys.
Gallwch nawr gadw lle ar-lein yn: https://www.ticketsource.co.uk/watersafety/t-qkjvog (Cwrs Gorffennaf) a https://www.ticketsource.co.uk/watersafety/t-qkjapx (Cwrs Awst).