Landlord absennol yn derbyn dirwy ar ôl gadael teulu heb foeler
Bydd angen i landlord absennol dalu dros £9,000 mewn dirwyon a chostau ar ôl cael ei euogfarnu am beidio â chael trwydded landlord ar ôl i denant gwyno i'r cyngor am gyflwr ei dŷ.
Bydd angen i landlord absennol dalu dros £9,000 mewn dirwyon a chostau ar ôl cael ei euogfarnu am beidio â chael trwydded landlord ar ôl i denant gwyno i'r cyngor am gyflwr ei dŷ.
Gweithredodd y cyngor ar ôl i deulu o chwech gwyno am leithder yn yr eiddo a boeler wedi'i dorri yn eu cartref yn Stryd Gerald, yr Hafod, sy'n eiddo i Lee Lovering o Heol Las, Gellifedw, Abertawe.
Cyhuddodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Mr Lovering o dan Ddeddf Tai 2014 (Cymru) am fethu i gofrestru fel landlord, methu cael trwydded i wneud gweithgareddau rhentu a rheoli a methu cydymffurfio â'r hysbysiad gwella o dan Ddeddf Tai 2004 mewn perthynas â'r lleithder a phroblemau'r boeler.
Roedd y Barnwr Rhanbarth, Thomas, wedi dyfarnu Mr Lovering yn euog yn ei absenoldeb, ond torrodd y ddedfryd oherwydd ei fod am i Mr Lovering ateb dros ei asedau.
Yn ei absenoldeb o'r llys ddydd Mawrth, rhoddwyd dirwy gwerth £3,000 i Mr Lovering am droseddau cofrestru a thrwyddedu. Rhoddwyd y ddirwy uchaf o £5,000 iddo hefyd am fethu cydymffurfio â'r hysbysiad i drwsio problemau'r boeler a'r lleithder.
Rhoddwyd costau gwerth £1,304 i'r cyngor a gorfodwyd iddo dalu gordal dioddefwr gwerth £170.