Myfyrwyr Abertawe'n dathlu eu llwyddiannau Safon Uwch
Mae myfyrwyr Safon Uwch Abertawe'n dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau gwych sy'n uwch na chyfartaleddau Cymru a'r DU.
Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol o 97.9% (97.6% yn 2018), yn uwch na chyfartaledd Cymru gyda 28.4% yn raddau A*-A.
Safodd bron 600 o bobl ifanc o ysgolion Abertawe'r arholiadau, ac erbyn hyn mae llawer ohonynt yn paratoi i fynd i'r brifysgol neu sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill.
Ar y cyfan, llwyddodd 28.4% (26.0% yn 2018) o ymgeiswyr Abertawe ennill gradd A* neu A o'u cymharu â'r 27.0% ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol yn Abertawe, sef 97.9%, yn well na'r 97.6% ar gyfer Cymru. Ar y cyfan, roedd 79.6% o raddau yn raddau C neu uwch yn Abertawe o'u cymharu â'r 76.3% yng Nghymru. Meddai'r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau,
"Rwy'n hapus i weld cyfres ardderchog arall o gyflawniadau gan bobl ifanc yn Abertawe a hoffwn eu llongyfarch nhw, eu rhieni a'r ysgolion a'r athrawon am eu holl waith caled.
"Hoffwn ddymuno'n dda ar gyfer ein disgyblion ar gyfer y dyfodol, beth bynnag a ddaw."
"Mae addysg yn brif flaenoriaeth i Gyngor Abertawe ac rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn cefnogi ein hysgolion er mwyn gwella cyrhaeddiad a rhoi'r cyfleoedd gorau posib i bobl ifanc yn Abertawe gyrraedd eu potensial llawn a byddwn yn parhau i wneud hynny."