Tai cyngor i dderbyn buddsoddiad pellach gwerth £117m
Bydd degau ar filiynau o bunnoedd yn cael eu gwario dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o waith adnewyddu mwyaf cartrefi Cyngor Abertawe er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Mae adroddiad i'r Cabinet wedi trafod sut y gwariwyd £42m yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ar waith adnewyddu ceginau, ystafelloedd ymolchi a boeleri newydd a gwella inswleiddio er mwyn lleihau biliau tanwydd ac ôl troed carbon tenantiaid.
Yn 2019 a 2020 bydd £117m arall - a gefnogir gan grant gwerth £9.2m gan Lywodraeth Cymru - yn cael ei fuddsoddi yn y gwelliannau i SATC.
Bydd yr arian yn sicrhau mwy na 4,000 o geginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, yn darparu mesurau inswleiddio pellach, yn adfywio tai uchel yn Stryd Croft a darparu addasiadau i sicrhau cysur i denantiaid ag anghenion meddygol.
Dywedodd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni fod y gwariant yn rhan o waith ailwampio mwyaf ar 13,000 o dai cyngor Abertawe a bod hyn yn creu swyddi i bobl leol yn ogystal â chyfleoedd prentisiaeth a hyfforddi.
"Mae buddsoddiad mewn tai cyngor yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cymunedau."