Cais am ragor o bwyntiau gwefru trydan yn Abertawe
Bwriedir sefydlu rhwydwaith o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar draws Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe yn gwneud cais am gyfran o £5 miliwn sydd ar gael i awdurdodau lleol yn y DU sy'n datblygu isadeiledd gwefru cerbydau trydan mewn ardaloedd preswyl.
Bydd yr arian y mae Abertawe'n gwneud cais amdano'n helpu i dalu am osod 26 cilfach wefru mewn 13 o feysydd parcio ar draws y ddinas.
Bydd pob pwynt gwefru'n galluogi cerbydau i deithio tua 30 o filltiroedd ar ôl gwefru am awr.
Mae'r cyngor yn gobeithio bydd y cynnydd yn yr isadeiledd gwefru trydan yn Abertawe'n annog mwy o fodurwyr i fynd yn wyrddach a defnyddio ceir trydan.
Bydd y cais diweddaraf am arian hefyd yn ychwanegu at gyllid grant trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (£89 mil) a gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn a bydd yn helpu i ariannu gwaith i osod pwyntiau gwefru yn nau safle parcio a theithio'r ddinas.
Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, "Rydym wedi gwneud ymrwymiadau difrifol i breswylwyr Abertawe i wella'n hamgylchedd lleol drwy leihau ein hôl-traed carbon.
"Bydd y defnydd cynyddol o gerbydau trydan yn y ddinas yn ein cynorthwyo i leihau allyriadau carbon.
"Bydd y cais hwn am gyllid ychwanegol yn allweddol i'n hymdrechion i gynyddu'r isadeiledd yn Abertawe y mae ei angen i roi hyder i fodurwyr ddewis cerbydau trydan yn y dyfodol.
"Ynghyd â'r pwyntiau gwefru newydd yn ein safleoedd parcio a theithio, byddwn bellach yn edrych ar gyflwyno mwy fyth o bwyntiau gwefru mewn meysydd parcio ger ardaloedd preswyl ar draws y ddinas gyfan."
Mae'r cyngor eisoes wedi cyflwyno cerbydlu mawr o 40 o faniau trydan i ychwanegu at ei gerbydlu presennol. Defnyddir y cerbydau gan staff y cyngor i gyflawni eu dyletswyddau yn y ddinas.
Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Mae'r cynnydd yn nifer y cerbydau trydan yn ein cerbydlu ein hunain yn rhywbeth rydym yn falch iawn ohono, ac mae cynghorau eraill yn ein hystyried yn esiampl gadarnhaol o reoli cerbydlu gwyrdd."