Aelwydydd Abertawe'n ailgylchu mwy nag erioed
Mae preswylwyr Abertawe'n ailgylchu mwy o wastraff cartref nag erioed yn dilyn ymgyrch ailgylchu a lansiwyd ar ddechrau 2019.
Cyflwynodd Cyngor Abertawe ei fenter 'Nid fan hyn' ym mis Chwefror fel ymgais i gael y rheini nad ydynt yn ailgylchu i ymuno â'r aelwydydd sydd eisoes yn ailgylchu drwy ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu wrth ymyl y ffordd.
Fel rhan o'r ymgyrch, bu swyddogion ailgylchu'r cyngor yn cynnal arolygon o wastraff sachau du a roddwyd ar y stryd i weld a oedd deunyddiau ailgylchadwy'n cael eu rhoi ynddynt. Roedd y preswylwyr nad oeddent yn ailgylchu'n derbyn llythyr yn eu hysbysu o gosb benodol os oeddent yn parhau i wrthod ailgylchu.
Mae'r fenter wedi arwain at ostyngiad o oddeutu 100 tunnell o wastraff sachau du'n cael ei gasglu bob pythefnos ac mae wedi arwain at gynnydd yn swm y gwastraff ailgylchadwy a gesglir.
Nod y cyngor yw gostwng swm y gwastraff sachau du a gesglir o gartrefi yn y ddinas bob blwyddyn (gwastraff na ellir ei ailgylchu) 2,600 o dunelli a disgwylir iddo arbed mwy na chwarter miliwn o bunnoedd mewn costau safleoedd tirlenwi o ganlyniad.
Hyd yma, ymwelwyd ag oddeutu 90,000 o gartrefi ac anfonwyd cyfanswm o 5,000 o lythyrau rhybudd cychwynnol i'r cartrefi yr oedd eu sachau du'n cynnwys deunyddiau ailgylchadwy.
Mae'r ymateb cadarnhaol gan breswylwyr i ddechrau ailgylchu wedi arwain at ddau hysbysiad o gosb benodol yn unig ers dechrau'r ymgyrch.
Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae preswylwyr Abertawe'n chwarae eu rhan wrth sicrhau nad yw deunyddiau ailgylchadwy'n cael eu rhoi mewn sachau du.
"Roedd y mwyafrif o breswylwyr a dderbyniodd lythyr rhybudd cychwynnol wedi dechrau ailgylchu ar unwaith ac mae arolygon dilynol wedi dangos gwelliannau sylweddol ac nid oedd angen gweithredu pellach.
"O'r 5,000 o lythyrau a anfonwyd, dim ond dau hysbysiad o gosb benodol a roddwyd. Dyma ymateb gwych gan breswylwyr ac mae'n golygu ein bod ni'n casglu llai o sachau du ar ymyl y ffordd.
"Mae'r gostyngiad yn swm y gwastraff sachau du'n golygu ein bod yn anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi ac, o ganlyniad, rydym yn gallu gwneud arbedion sylweddol ar ein costau gwaredu gwastraff na ellir ei ailgylchu."