Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc

Mae gofalwr ifanc yn blentyn neu'n berson ifanc y mae gofalu am rywun ag anabledd neu salwch tymor hir yn effeithio ar ei fywyd. Yn aml, bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu emosiynol a ddisgwylid gan oedolyn fel arfer.

Mae gofalwr ifanc yn rhywun sy'n helpu'n rheolaidd i ofalu am rywun y mae ganddo:

  • salwch tymor hir
  •  anabledd dysgu
  •  anabledd corfforol
  •  anawsterau iechyd meddwl
  •  problemau o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol

Gallai'r sawl mae'n gofalu amdano fod yn unrhyw un o'r canlynol:

  • mam neu dad
  •  brawd neu chwaer
  •  mam-gu, tad-cu neu berthynas arall

Gallai'r gefnogaeth mae'r gofalwr ifanc yn ei darparu gynnwys:

  • gwaith tŷ, coginio a siopa
  •  gofalu am frodyr a chwiorydd iau
  •  helpu rhywun i ymolchi a gwisgo
  •  sicrhau bod y sawl mae'n gofalu amdano'n ddiogel
  •  siarad ag asiantaethau eraill (e.e. y doctor) am y sawl mae'n gofalu amdano
  •  rhoi meddyginiaeth
  •  rhoi cefnogaeth emosiynol

Nid yw bob amser yn hawdd bod yn ofalwr ifanc. Rhai o'r problemau y gallai eu hwynebu yw:

  • anawsterau gyda'r ysgol a gwneud gwaith cartref
  • dim digon o amser i weld ffrindiau
  • poeni am y sawl mae'n gofalu amdano
  • teimlo'n wahanol i eraill
  • pobl eraill ddim yn deall sut mae bod yn ofalwr ifanc

Gofynnwch am gefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ar eich cyfer chi fel gofalwr ifanc neu'r person rydych yn ofali amdano (UPC)  Un pwynt cyswllt (UPC)

Mae fwy o gefnogaeth ar gael i ofalwr ifanc o'r Young Carers Service yn YMCA Abertawe (ymcaswansea.org.uk).

 

Oedolion ifanc sy'n ofalwyr

Gofalwyr rhwng 16 a 25 oed yw Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr. Gallant fod yn ymdrin â'u cyfrifoldebau gofalu ynghyd â:

  • gofynion addysg bellach neu uwch
  • chwilio am waith neu'n ceisio deall y system fudd-daliadau
  • dechrau eu bywydau gwaith
  • perthynas emosiynol ddifrifol
  • meddwl am adael cartref

Gofynnwch am gefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ar eich cyfer chi fel oedolion ifanc sy'n ofalwyr neu'r person rydych yn ofali amdano (PMC) Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Mae fwy o gefnogaeth ar gael i Oedolion ifanc sy'n ofalwyro'r Young Adult Carers Service - Canolfan gofalwyr Abertawe (swanseacarerscentre.org).

Gall Gwasanaethau Cymdeithasol helpu, trwy'ch helpu i gael y gefnogaeth y mae ei hangen arnoch, neu drwy ddarparu cefnogaeth i'r sawl rydych yn gofalu amdano.

Os eisiau cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol, gallwch sgwrsio gyda weithwyr cymdeithasol am yr anawsterau sydd gennych a pha fath o help yr hoffech ei gael. 

Ni fydd yn rhaid i chi gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol ei hunan, mae pobl sy'n gallu gwneud hyn drosoch, fel rhywun o'r Gwasanaeth Ofalwyr Ifanc (ymcaswansea.org.uk) neu Gwasanaeth Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr (swanseacarerscentre.org), rhywun o'ch ysgol, rhywun o'r National Youth Advocacy Service (www.nyas.net), neu rywun arall rydych yn ymddiried ynddo.

Mae'r sefydliadau canlynol yn gallu helpu gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc:

Close Dewis iaith