Ffrâm ddur wedi'i chwblhau wrth i'r ysgol newydd ddatblygu
Mae'r adeiledd dur ar gyfer ysgol newydd yng Ngorseinon bellach yn ei le ac mae contractwyr yn gwneud cynnydd da ar y cynllun.
Bydd y datblygiad gwerth £6.9m yn cymryd lle hen adeiladau Fictoraidd. Bydd ystafelloedd golau ac agored, neuadd, ardal fwyta a chyfleusterau awyr agored, gan gynnwys cae 3G pob tywydd ac ardal gemau amlddefnydd a fydd ar gael i'r gymuned ei defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Caiff ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru a'r cwmni Andrew Scott Ltd. sy'n ei adeiladu.
Roedd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Jennifer Raynor, wedi ymweld â'r safle ym Mharc y Werin yr wythnos hon.
Meddai'r Cyng. Raynor, "Roeddwn i'n falch iawn o weld y cynnydd gwych sy'n cael ei wneud ar yr adeilad newydd a gweld y cynlluniau'n dod yn fyw.
"Mae popeth yn mynd yn ôl y rhaglen er mwyn i'r ysgol wych hon agor fis Medi nesaf ac rwy'n gwybod cymaint y mae'r disgyblion a'r staff yng Ngorseinon yn edrych ymlaen at symud iddi.
"Roedd yn dda gen i glywed bod llawer o gyflenwyr a chontractwyr lleol yn cael eu defnyddio yn y datblygiad hwn, gan roi hwb i'r economi leol.
"Yn ogystal â chroesawu ymweliad gan ddisgyblion o'r ysgol, mae Andrew Scott Limited hefyd wedi croesawu myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr ar y safle fel rhan o'u hastudiaethau."