Gwaith i adfer y bont hanesyddol gam yn nes
Ymgymerir ag ymchwiliadau manwl ar dirnod hanesyddol yn Abertawe.
Bydd y gwaith hwn yn arwain at atgyweirio ac adfer Pont Wrthbwys Glandŵr sy'n 110 oed.
Clustnodwyd yr adeiledd gan Gyngor Abertawe fel un o nodweddion treftadaeth allweddol dyfodol disglair safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Y nod yw ailosod y rhychwant dur 70 tunnell yn ei safle sy'n croesi afon Tawe y flwyddyn nesaf yn dilyn asesiad a gwaith adfer yn Afon Engineering, Bro Tawe. Fe'i cludwyd i Afon dri mis yn ôl.
Mae ymchwiliadau'n mynd rhagddynt hefyd ar drestlau pren y bont sy'n ffurfio ffrâm anhyblyg i gynnal rhychwant y bont, drwy weithio'n agos gyda'r corff adeiladau hanesyddol Cadw i gadarnhau pa waith adfer sy'n angenrheidiol a sut i'w wneud.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein dadansoddiad manwl o'r rhychwant a'r trestlau yn hanfodol i ddeall sut rydym yn mynd ati i atgyweirio ac adfer y bont wych hon sydd wedi goroesi hanes diwydiannol Abertawe.
"Rydym mewn cysylltiad cyson â Cadw i sicrhau bod y gwaith adfer yn bodloni eu gofynion.
"Mae'r ymchwiliadau presennol yn waith arbenigol, a gobeithiwn ddechrau ar y gwaith atgyweirio ac adfer yn gynnar y flwyddyn nesaf.
"Bydd ein gwaith ar y Bont Wrthbwys yn ategu'r gwaith rydym yn ei wneud i ddatblygu cyrchfan twristiaeth o'r radd flaenaf yn y gwaith copr; mae hyn wedi denu cyllid gwerth £3.75m o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer y Pwerdy i'w ddefnyddio yn y dyfodol gan Ddistyllfa Penderfyn fel atyniad i ymwelwyr."
Meddai Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol,
"Dyma brosiect gwych i roi bywyd newydd i dirnod lleol eiconig."
Bu'r Bont Wrthbwys, sy'n nodwedd unigryw o dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe, yn ganolog i gyfnod yr ardal fel prif ganolfan gopr y byd. Byddai ei adeiledd dur colynnog yn codi i ganiatáu i draffig yr afon fynd ar ei hynt.
Caiff y gwaith cychwynnol ar yr elfennau dur ei ariannu'n rhannol drwy gyllid o Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad ariannol gan y cyngor.