Chwilio'r wefan
English

Awdur ac artist poblogaidd yn beirniadu cystadleuaeth bwysig yn Abertawe

Bydd awdur ac artist y mae eu gwaith yn boblogaidd yng Nghymru ac ar draws y byd yn beirniadu cystadleuaeth bwysig yn Abertawe.

Glynn Vivian art gallery

Bydd Durre Shahwar a Richard Billingham yn edrych ar y ceisiadau niferus ar gyfer cystadleuaeth Abertawe Agored 2019.

Arddangosir yr eitemau sydd ar y rhestr fer yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn y ddinas o 7 Rhagfyr.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym wrth ein bodd y bydd Durre a Richard yn beirniadu cystadleuaeth Abertawe Agored eleni.

"Bydd eu cyfraniadau'n golygu y gall artistiaid Abertawe fod yn sicr y cafodd eu gwaith ei ddewis gan ddau berson sy'n arbenigo yn eu meysydd ac yn frwd dros gelf.

"Dyma ffordd wych arall o ddathlu wrth i Abertawe ddathlu 50 mlwyddiant fel dinas."

Mae Durre Shahwar yn awdur, yn olygydd ac yn hwylusydd creadigol.

Hi yw cyd-sylfaenydd 'Where I'm Coming From', digwyddiad meic agored sy'n hyrwyddo ysgrifennu BAME yng Nghymru.

Mae Richard Billingham yn ffotograffydd, yn gynhyrchydd ac yn athro.

Ef oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse ym 1997 ac fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Turner yn 2001.

Byddant yn rhan o banel dethol Abertawe Agored ynghyd â chynrychiolydd Oriel Gelf Glynn Vivian ac arsyllwr allanol.

Cystadleuaeth gelf flynyddol yw Abertawe Agored sy'n agored i unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn Abertawe (SA1-SA9). Mae'n dathlu pob math o gelf a chrefftau. Arddangosir darnau dethol o'r ceisiadau yn yr oriel. Arddangoswyd 223 o gelfweithiau gan oddeutu 190 o artistiaid o Abertawe'r llynedd ar gyfer Abertawe Agored 2018.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 24 Tachwedd.

Rhagor o wybodaeth:www.orielglynnvivian.org

Wedi'i bweru gan GOSS iCM