Cais tir comin ar gyfer safle ysgol yn cael ei wrthod
Mae un o arolygwyr Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais i gofrestru Parc y Werin yng Ngorseinon fel tir comin.
Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd y contractwr sy'n adeiladu ysgol gynradd mawr ei hangen gwerth £6.9m ar ran fach o'r safle yn gallu parhau â'r gwaith ac y bydd yr ysgol yn debygol o agor fis nesaf yn ôl y disgwyl.
Roedd y sawl a gyflwynodd y cais am dir comin yn honni bod y parc ar ddechrau'r 1800au yn rhan o ehangder o dir o'r enw Comin Llwchwr, y cydnabuwyd ei fod yn dir comin. Roedd Cyngor Abertawe, fel perchennog y tir, yn dadlau nad oedd y tir hwn yn dir comin.
Roedd penderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio i ddiystyru'r cais yn dilyn dwy ymgais aflwyddiannus i geisio dynodi'r tir yn faes pentref.
Meddai'r Cyng. Jennifer Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, "Mae hyn yn newyddion da i blant Gorseinon ac rwy'n falch bod y dyfarniad hwn yn golygu y bydd cartref newydd i blant Ysgol Gynradd Gorseinon yn agor i ddisgyblion ym mis Medi."
Dywedodd Jason Dodd, Pennaeth Ysgol Gynradd Gorseinon, fod staff, disgyblion a rhieni'n edrych ymlaen at weld y safle newydd yn agor ym mis Medi.
"Bydd cael ysgol newydd sbon sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif o fudd i gannoedd o blant a'u teuluoedd am flynyddoedd i ddod," ychwanegodd.