Rownd gynderfynol Cwpan y Byd ar y sgrîn fawr
Bydd cyfle i gefnogwyr rygbi weld dwy gêm olaf Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd ar sgrîn fawr Abertawe yng nghanol y ddinas.
Wrth i'r paratoadau barhau ar gyfer yr hyn sy'n addo bod yn rownd gynderfynol epig yn erbyn De Affrica fore Sul, gall cefnogwyr rygbi wneud trefniadau i wylio'r gêm yn fyw ar y sgrîn fawr.
Os yw Cymru'n cyrraedd y rownd derfynol ar 2 Tachwedd yn erbyn y Crysau Duon neu Loegr, bydd y gêm honno hefyd yn cael ei darlledu ar y sgrîn fawr.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Cymru gyfan wedi'i gwefreiddio gan gampau ein tîm yn Japan ac rydym 80 munud yn unig i ffwrdd o gyrraedd rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd am y tro cyntaf. Mae pob un ohonom yn gobeithio y bydd y bechgyn yn y crysau coch yn llwyddo eleni yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd.
"Mae pawb yn dechrau cyffroi ar gyfer dydd Sul a bydd darlledu'r gêm fawr ar y sgrîn fawr yn gyfle gwych i gefnogwyr ddod ynghyd a chefnogi'r tîm i gyrraedd y rownd derfynol."
Bydd y sgrîn fawr ymlaen o 8am ddydd Sul cyn i'r gêm ddechrau am 9am a bydd cyfle i gefnogwyr rygbi fwynhau'r gêm o gysur cadair gynfas ar sail y cyntaf i'r felin.