Gwasanaeth yn helpu 540 o bobl i ennill cyflogaeth
Cefnogwyd hyd at 540 o bobl i ennill cyflogaeth neu ddod o hyd i swydd well ers ail-lansio gwasanaeth cyflogadwyedd Cyngor Abertawe 18 o fisoedd yn ôl.
Mae Abertawe'n Gweithio a'i bartneriaid hefyd wedi helpu dros 1,100 o bobl i dderbyn hyfforddiant ac mae wedi cefnogi dros 2,450 o bobl.
Fe'i sefydlwyd fel prif gyswllt yn y ddinas i bobl o bob oedran sy'n chwilio am waith, boed yn bobl sy'n chwilio am eu swydd gyntaf neu'r rheini sy'n chwilio am lwybr gyrfa newydd neu gam i fyny.
Mae'r tîm yn cynnig ystod eang o gyngor a chefnogaeth, ac mae gwasanaethau'n cynnwys cynlluniau gweithredu cyflogaeth personol, hyfforddiant er mwyn diwallu anghenion unigolion a chefnogaeth ar geisiadau am swyddi, profiad gwaith, lleoliadau, prentisiaethau a chyfleoedd gwaith a chefnogaeth yn y gweithle.
Mae Steven Williams yn un o'r bobl sydd wedi dychwelyd i'r gwaith oherwydd y gwasanaeth.
Meddai, "Mae wedi newid fy mywyd a bydden i'n sicr yn argymell Abertawe'n Gweithio."
I ddarganfod sut gall Abertawe'n Gweithio eich helpu, e-bostiwch SwanseaWorking@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 578632.