Cefnogaeth ar-lein wedi'i threfnu ar gyfer deiliaid cerdyn bws yn Abertawe
Gall teithwyr bysus gael help i gyflwyno cais am eu cerdyn bws consesiynol newydd.
Mae Cyngor Abertawe'n sefydlu sesiynau wythnosol i roi cefnogaeth i'r cyhoedd wrth iddynt fynd drwy'r broses ar-lein newydd a lansiwyd gan Trafnidiaeth Cymru ym mis Medi.
Mae pob cerdyn cyfredol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr. Mae angen i bob deiliad cerdyn adnewyddu ei gardiau cyfredol i dderbyn y fersiwn newydd a fydd hefyd yn cael ei sganio gan y systemau darllen cardiau electronig pan fydd teithwyr yn eu cyflwyno ar y bysus.
Meddai Cath Swain, Arweinydd Tîm Trafnidiaeth Teithwyr Cyngor Abertawe, "Mae nifer o'n deiliaid cerdyn bws cyfredol yn Abertawe eisoes wedi defnyddio'r system ar-lein i adnewyddu eu cardiau. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 65% o ddeiliaid wedi adnewyddu eu cardiau.
"Rydym yn cydnabod nad yw rhai aelodau o'r cyhoedd, yn enwedig pobl hŷn, yn gyfarwydd â'r broses ar-lein neu efallai bod angen peth cefnogaeth arnynt i gwblhau'r cais.
"Mae nifer ohonynt yn derbyn cefnogaeth gan aelodau'r teulu i gwblhau'r broses adnewyddu ond i'r rhai na allant gael help, rydym wedi trefnu rhai sesiynau bob wythnos i roi'r gefnogaeth i breswylwyr yn electronig.
"Gall preswylwyr naill ai alw heibio'r Ganolfan Ddinesig a defnyddio'r offer digidol sydd yn y Ganolfan Gyswllt neu'r Llyfrgell Ganolog i gwblhau'r broses. Bydd gennym aelod o staff ar gael i'w harwain drwy'r broses.
"Mae'n eithaf cyflym a hawdd i'w wneud a byddem yn annog pob deiliad cerdyn bws cyfredol i'w adnewyddu ymhell cyn 31 Rhagfyr i sicrhau bod ganddynt eu cardiau bws newydd cyn 1 Ionawr."
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau na chaiff hen gardiau bws eu hadnabod ar y systemau electronig ar fysus lleol ar ôl 31 Rhagfyr, a gall hyn olygu y gellir gwrthod teithiau am ddim.
O ddydd Llun 18 Tachwedd, gall ymgeiswyr gael cefnogaeth yn y Ganolfan Gyswllt rhwng 9am a 12pm bob dydd Llun. Nid oes angen trefnu apwyntiadau.
O ddydd Mercher 20 Tachwedd, gall ymgeiswyr gael cefnogaeth wrth gwblhau ceisiadau adnewyddu rhwng 1pm a 5pm bob dydd Mercher yn y Llyfrgell Ganolog. Nid oes angen trefnu apwyntiadau yma chwaith.
Gellir cwblhau ceisiadau ar-lein yn tfw.gov.wales/cy/cerdynteithio rhwng heddiw a 31 Rhagfyr.