Gwirfoddolwyr gwych yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith
Mae'r Arglwydd Faer wedi diolch i wirfoddolwyr sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant ar draws Abertawe am eu hymdrechion.
Daeth dros 30 o bobl o amrywiaeth eang o sefydliadau i'r Plasty yr wythnos hon i dderbyn tystysgrifau o ddiolch.
Meddai Arglwydd Faer Abertawe, Peter Black, "Roeddwn i'n hapus iawn i gydnabod y gwirfoddolwyr gwych sy'n sicrhau bod gan bobl ifanc gyfleoedd chwarae diogel ac o safon ar draws ein dinas.
"Boed trwy gefnogi eu prosiect lleol neu drwy helpu i gynnal cynlluniau chwarae dros wyliau'r haf, mae'r gwirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser eu hunain a dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iddynt."
Mae rhai o'r rheini a gydnabuwyd wedi gwirfoddoli ers blynyddoedd, ond mae nifer yr oedolion ifanc sy'n gwirfoddoli'n lleol i ddarparu cyfleoedd chwarae wedi cynyddu.