Cinio Nadolig i ddod â hwyl yr ŵyl i bobl ddiamddiffyn y ddinas
Mae Abertawe'n dod ynghyd unwaith eto i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen yn ystod digwyddiad Nadoligaidd arbennig.
Mae JR Events and Catering, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, yn agor drysau Neuadd Brangwyn ddydd Iau 19 Rhagfyr i weini cinio Nadolig dau gwrs am ddim i bobl ddiamddiffyn, ynysig neu ddigartref yn Abertawe.
Cynhelir y digwyddiad o ganol dydd tan 3pm, a bydd y digwyddiad 'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig' hefyd yn cynnwys busnesau lleol, megis barbwr a thriniwr gwallt, a fydd yn darparu gwasanaethau eraill am ddim. Hefyd bydd banc dillad, banc bwyd a bagiau iechydol yn cynnwys brwshys dannedd, pâst dannedd a chynnyrch hylendid merched.
Hefyd, bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o wasanaethau ac elusennau yn darparu gwybodaeth ar gymorth sydd ar gael.
Meddai Jessica Rice, Cyfarwyddwr JR Events and Catering, "Dyma'r bedwaredd flwyddyn i ni gynnal digwyddiad 'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig' ac mae'n parhau i fynd o nerth i nerth.
"Mae gwahoddiad i unrhyw un sy'n ddiamddiffyn, unrhyw un sy'n ddigartref neu unrhyw un sy'n unig ac yn ynysig i ymuno â ni ar gyfer y prynhawn."
Dywedodd Jessica fod y gefnogaeth a dderbyniwyd gan fusnesau wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl, ond mae'n gobeithio y gall deintydd a cheiropodydd gynnig eu gwasanaethau am ddim.
Mae JR Event and Catering hefyd yn casglu dillad, yn cynnwys cotiau a siacedi, ynghyd â phecynnau bwyd, ac os hoffai unrhyw un gyfrannu, gofynnwn iddynt adael rhain yn Neuadd Brangwyn rhwng 9am a 12pm ar ddiwrnod y digwyddiad.
Cysylltwch â Jessica Rice i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar jessica.rice@jr-eventsandcatering.co.uk neu 01792 635253.