Gwaith y bont wedi'i gwblhau
Cwblhawyd cam diweddaraf y gwaith i adeiladu arena newydd Abertawe.
Cafodd y bont gerddwyr 40 oed dros Heol Ystumllwynarth ei symud yn llwyddiannus ar amser yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun.
Symudwyd y bont gerddwyr ger yr LC yn ystod ymgyrch ofalus gan gontractwyr arbenigol gan ddefnyddio dau graen 25m o uchder.
Yn lle'r bont sy'n pwyso 150 tunnell bydd lled dur euraid deniadol wedi'i orchuddio'n rhannol sy'n amrywio mewn lled o 6m i 12m ac a fydd yn 6m o uchder yn cael ei osod yn y misoedd sydd i ddod.
Bydd hyn yn darparu ar gyfer y miloedd o bobl a fydd yn dod i ddigwyddiadau yn yr arena dan do sydd bellach yn cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe ar hen faes parcio'r LC.
Mae'r holl waith yn rhan o gynllun trawsnewid Cam Un Abertawe Ganolog sy'n werth £135 miliwn sy'n cynnwys parcdir newydd, bron 1,000 o leoedd parcio, cartrefi ac unedau masnachol. Disgwylir i'r cyfan agor yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf.