Gŵyl Croeso - yr hyn y mae angen i chi ei wybod...
Gŵyl ddeuddydd sy'n dathlu popeth Cymreig yw digwyddiad Croeso. Fe'i cynhelir yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 29 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth 2020, 11am - 4pm.
Trefnir y digwyddiad am ddim gan Gyngor Abertawe. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwn yn Abertawe.
"Mae'n gyfle gwych i arddangos ein bwydydd a'n diodydd blasus lleol ac i ddenu pobl newydd i ganol y ddinas i weld y pen-cogyddion wrthi'n coginio a phrofi rhywbeth newydd yn Abertawe."
Bydd digwyddiad eleni'n cynnwys diwylliant Cymreig lleol o'r radd flaenaf, gan gynnwys:
Arddangosiadau Coginio
Dydd Sadwrn 29 Chwefror: Stryd Portland
· 11am: Nerys Howell, Ymgynghoriaeth Bwyd Howell ac Awdur Cymru ar Blât
· 12pm: Siân Day a Rob Bowen, a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol My Kitchen Rules ar Channel 4
· 1pm: The Dirty Vegan, Matt Pritchard
· 2pm: Michelle Evans-Fecci, cystadleuydd ar The Great British Bake Off 2019.
· 3pm: Imran Nathoo, a gyrhaeddodd rownd gogynderfynol Masterchef 2019.
Dydd Sadwrn 29 Chwefror: Marchnad Abertawe
· 10:15am: Colin Lewis, The Cliff, Southgate
· 11:15am: Helen Wilson, Pen-cogydd bwyd a wnaed o blanhigion
· 12:15pm: Nerys Howell, Ymgynghoriaeth Bwyd Howell ac Awdur Cymru ar Blât
· 1:15pm: Siân Day a Rob Bowen, a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol My Kitchen Rules ar Channel 4
· 2pm: The Dirty Vegan, Matt Pritchard - Sesiwn Holi ac Ateb a Llofnodi Llyfrau
· 3pm: Ragsy
Dydd Sul 1 Mawrth: Stryd Portland
· 11am: Jack Brown, Gwesty'r Marriott
· 12pm: Jean-Christophe Novelli
· 1pm: Katie Davies a gyrhaeddodd rownd gogynderfynol Best Home Cook 2018 ar y BBC
· 2pm: Jean-Christophe Novelli
· 3pm: Colin Lewis, The Cliff, Southgate
Adloniant Byw
Cyflwynir gan Helens Enser Morgan.
Dydd Sadwrn 29 Chwefror
· 11.30am: Ysgol Gynradd Pennard- Twmpath Dawnsio Gwerin Cymreig
· 12pm: Jermin Productions
· 12.30pm: Côr Tŷ Tawe
· 1pm: Ragsy
· 1.30pm: Theatr Mellin
· 2pm; Jack Perrett
· 2.30pm: Welsh Whisperer
· 3pm: Eady Crawford.
Dydd Sul 1 Mawrth
· 11am: 'Cyw gydag Elin a Huw' o S4C
· 11.30am: Theatr Mellin
· 12pm: Tomos Newman
· 12.30pm: Kayleigh Morgan
· 1pm: Kizzy Crawford
· 1.30pm: Danceerama
· 2pm: 'Cyw gydag Elin a Huw' o S4C
· 2.30pm: Kizzy Crawford
· 3.15pm: Yr Elvis Cymreig - Wynne Roberts BEM
Gweithgareddau i deuluoedd a diddanwyr a fydd yn crwydro o gwmpas y lle - yn Sgwâr y Castell a'r cyffiniau
Dydd Sadwrn a dydd Sul
· 11am - 4pm: Pabell Fawr Cwtsh - llawer o weithgareddau difyr wedi'u cyflwyno'n Gymraeg
· 11am - 4pm: Paentio wynebau am ddim
· 11am - 1pm: Annibendod - Gwneud eich adenydd draig fach eich hun
· 11am - 12pm: Gweithdy Celf Wal Graffiti Eiconau o Gymru
· 11.30pm - 12pm: Cerddwyr Stiltiau
· 12pm - 3pm: Sesiynau 'Rhoi Cynnig Arni' Didi Rugby
· 1pm - 1.30pm: Cerddwyr Stiltiau
· 11.30am - 2.30pm: Gweithdy Celf Wal Graffiti Eiconau o Gymru
· 2pm - 4pm: Annibendod - Gweithdy creu eich dafad a'ch draig eich hun o glai
· 3pm - 3.30pm: Gorymdaith Dewi Sant (gan gynnwys Draig y Theatr Byd Bychan, Samba Blocco Vale a Theatr Mellin)
Digon i'w fwynhau...
Ewch i Sgwâr y Castell i glywed sŵn hyfryd cerddoriaeth Gymreig cyn symud ymlaen at Stryd Portland a Stryd Rhydychen, lle gallwch flasu bwydydd a diodydd Cymreig, a gweld nwyddau gwych a wnaed â llaw. Peidiwch â cholli'r arddangosiadau coginio a'r gweithdai crefftau.
Trochwch eich hun yn yr iaith Gymraeg ym Mhabell Cwtsh. Gallwch fwynhau digon o ddiwylliant Cymreig, gan gynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth ac adloniant byw. Dywedwch 'Shwmae!' i bobl gyfeillgar Menter Iaith Abertawe. Byddant yn estyn croeso cynnes Cymreig i bawb, ac yn cynnig digon o help i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg (neu'n ystyried dysgu).
Cau ffyrdd
Oherwydd Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi bydd angen cau'r ffyrdd cysylltiedig yn eu tro, dros dro rhwng 2.45pm a 3.45pm. Bydd yr orymdaith yn dechrau yn Sgwâr y Castell am 3pm ac yn dilyn y llwybr canlynol:
- Stryd Caer - y stryd gyfan
- Ffordd y Brenin - o Ffordd y Dywysoges i Heol San Helen
- Stryd Dillwyn- o Heol San Helen i Stryd Rhydychen
- Stryd Rhydychen - o Stryd Dillwyn i Whitewalls
- Whitewalls - y ffordd gyfan
Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg.